ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sioeau
Russell gydag un o'i ieir Cochin Paratoi at sioe
Mis Awst 2004
Yma yn ei ddarn dyddiadur cyntaf, mae Russell Jones o'r Bontnewydd ger Caernarfon, sy'n cadw ieir yn ei ardd gefn, yn rhannu ei brofiadau o baratoi ei adar pluog i'w dangos yn un o'r sioeau lleol.

Dydd Gwener 20/08/04 - Y diwrnod cyn Sioe Llanrwst

Heddiw ydy'r diwrnod golchi. Mi fydda i'n trio golchi'r rhan fwyaf o'r adar er mwyn gadael iddyn nhw sychu a thrin eu plu ar ôl imi eu golchi a'u sychu efo'r sychwr gwallt.

Rydw i wedi cael y diwrnod i ffwrdd heddiw yn barod at y sioe fory.

Iâr Cochin wen cyn ei golchi10:00 - Dechrau ar y Cochin. Yr iâr wen i mewn i'r bath yn gyntaf am fod y dŵr yn lân ac yn gynhesach. Rhaid i'r dŵr fod ychydig yn gynhesach i drïo cael y plu yn wynach neu'n lanach.

Ar ôl ei golchi efo dŵr glân cynnes a rhoi shampŵ a conditioner mae angen ei sychu. Rydw i'n rhoi tywel o amgylch yr iâr ac yna'n dechrau sychu efo'r sychwr gwallt.

Mi fydda i'n sychu rownd ei phen hi yn gyntaf ac wedyn yn gweithio i lawr at y gynffon. Mae'n cymryd amser am fod y sychwr gwallt yn gorfod bod ar cool neu mi fydda i'n llosgi croen yr aderyn neu yn ei brifo.

Wedi gorffen sychu'r iâr wen, rydw i'n dechrau ar y ceiliog du. Mae hwn yn dderyn blwydd oed a fi sydd wedi ei fagu. Mae ei lygaid yn berffaith a chrib a wyneb da arno fo hefyd. Yr unig beth sydd yn erbyn dangos aderyn mawr fel Cochin yn yr haf ydy fod hen blu yn troi'n frown ac yn sefyll allan yn erbyn y plu newydd sydd yn dw'llach, neu yn ddu.

Y ceiliog Cochin du (cyn ei olchi!)Mi rydw i'n meddwl fod golchi efo dŵr cynnes, shampŵ a conditioner yn help i sychu'r plu'n well am eu bod nhw'n fflyffio i fyny yn well. Mae'r plu'n agor allan yn well, neu fel arall maen nhw'n mynd yn galed fel cardbord mewn mannau.

Ar ôl golchi a sychu, mi fydda i yn eu rhoi nhw yn rhywle lle fedran nhw ddim maeddu neu fydd yr holl waith wedi mynd i wâst.

Am mai newydd ddechrau yn ôl ar gystadlu ydw i ac am fy mod yn byw mewn tŷ newydd, does gen i ddim lle i roi'r adar ar ôl eu golchi eto, felly mi fydda i'n eu cadw nhw yn y tŷ dros nos. Dyna pam y bydda i'n trïo eu golchi nhw mor agos i'r sioe â phosib!

13:00 - Wedi gorffen y ddau fwyaf o'r diwedd. Mae gen i bedwar aderyn wedi eu entro yn y sioe ond mi wna i'r ddau arall bora fory cyn mynd. Wnân nhw ddim cymryd yn hir am eu bod nhw'n fach.

Dydd Sadwrn 21/08/04 - Diwrnod Sioe Llanrwst

Iâr bantam Lavender Pekin6:00 - Dechra eto ar yr ieir. Y bantam gyntaf, a dwi'n ei gwneud yn y sinc. Lavender Pekin ydy hon; rhywbeth yn debyg i'r Cochin ond chwarter ei seis. Wedyn rydw i'n golchi'r Cream Legbar. Deryn wedi ei chreu ydy hon er mwyn gallu dweud ei rhyw pan mae'n deor - sef Auto Sexing Breeds. Pan maen nhw'n deor mae gan yr ieir gylch bach melyn er eu pennau. Does gan y ceiliog 'run felly mae'n haws i bobl wybod beth mae'n nhw wedi ei gael ar ôl iddyn nhw ddeor. Mae hi'n dodwy wyau mawr glas.

Dim ond golchi coesau yr iâr yma sydd eisiau a rownd ei phen a dim ond rhoi'r sychwr gwallt arni i chwythu'r llwch i ffwrdd.

7:30 - Wedi gorffen efo'r adar - rŵan fi sydd yn cael ei olchi yn barod at y sioe!

Tu mewn i babell y dofednod yn Sioe Llanrwst8.50 Cyrraedd y sioe a phedair aderyn wedi ei gwneud hi i'r cystadlu: Pekin i'r dosbarth Any True Bantam; Cream Legbar i'r dosbarth Any Other Variety, soft featherlight a dau Cochin i'r dosbarth Any Colour Cochin.

Ar ôl rhoi'r adar yn y sioe mi fydd y dent yn cau ac mi fydd yn rhaid chwysu am 'chydig i weld os oedd yr holl waith 'na wedi talu ei ffordd. Mi fyddai'n mynd rownd y sioe i weld beth sydd ar werth ac i weld pobl 'dwi wedi eu cyfarfod o sioeau eraill yn y gorffennol a gweld yr arddangosfeydd eraill.

12:00 - Mynd nôl i'r dent ieir i weld beth sydd wedi cael cerdyn. Cafodd y Cochin ail a trydydd - y ceiliog du yn cael ail a'r iâr wen yn dwad yn drydydd. Mi ddoth y Lavender Pekin yn drydydd am fod ganddi hi'n dal ryw fis neu ddau i dyfu eto ond mi fydd hi'n berffaith erbyn y sioeau gaeaf ac yn y National yn Stoneleigh.

Cream Legbar Yn anffodus chafodd yr iâr Leg ddim byd. Mae ganddi hi hefyd ychydig o dyfu i fynd tan y bydd yn ddigon mawr i roi cystadleuaeth i'r lleill. Am fod yr adar soft featherlight mor amrywiol a gwahanol a dim llawer o bobl yn eu cadw mae'n amhosib gwybod faint o adar a pha adar fydd yn eich erbyn chi ar y diwrnod. Ond, sioe nesa gobeithio!

Doedd hi ddim yn sioe rhy ddrwg. Mae angen mynd i gefnogi y sioeau bach. Dwi'n hoffi mynd dim ond i siarad efo'r cymeriadau eraill neu i wybod am adar sydd ar werth neu am rywun sydd eisiau eu prynu nhw.

Russell a'r rhosedi a enillodd yn LlanrwstSioe Llanrwst oedd y ddiwetha o'r sioeau lleol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn gweddol ond mae'n rhaid paratoi o hyd am y sioeau sydd i ddwad a magu at y flwyddyn nesa.

Hwyl am y tro!

Ymlaen i fwy o hanes Russell.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý