ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwaraeon
Raymond Williams
Raymond Williams

Ganwyd: 9 Medi 1959

Magwyd: Caergybi

Addysg: Ysgol Uwchradd Caergybi


Enillydd medal aur am godi pwysau yng ngemau'r Gymanwlad

Enillodd Raymond Williams y fedal aur am godi pwysau yng ngemau'r Gymanwlad yn 1986 ac aeth yn ôl i gystadlu eto yn 2002.

Ond ar ddechrau ei yrfa, gymnasteg oedd camp Raymond nes i athro ymarfer corff Ysgol Uwchradd Caergybi, Rob Wrench, oedd ei hun wedi ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Christchurch, ei annog i roi cynnig ar godi pwysau. Doedd dim llawer o offer codi pwysau ar gael yn y Gogledd ar y pryd ond fe ofalodd Rob Wrench fod ychydig o fariau ar gael yn yr ysgol.

Yn 1977, gosodwyd Raymond ymhlith y deg uchaf mewn pencampwriaeth ieuenctid yn Sophia, Bwlgaria ac fe'i dewiswyd hefyd yn bersonoliaeth chwaraeon ifanc y flwyddyn yng Nghymru. Cyflwynodd John Toshack y wobr iddo a Raymond druan yn teimlo'n fyr iawn wrth ei ymyl ac yntau yn ddim ond 5'2" a John yn dalach o lawer!

Ymunodd â'r Fyddin yn 1979 a rhoi'r gorau i'r gamp am gyfnod cyn ennill teitl Cymru yn 1983 a'r Pencampwriaeth Celtaidd yn 1984.

Wedi'r pinacl o ennill y fedal aur yng Nghaeredin, pedwerydd ddaeth Raymond yn Seland Newydd yn 1990 a phenderfynodd roi'r gorau iddi a chanolbwyntio ar ei yrfa yn y Fyddin. Ond pan ddaeth y gemau i Fanceinion, roedd y demtasiwn yn ormod iddo. Erbyn hynny, roedd o'n hÅ·n o lawer na gweddill y cystadleuwyr ond llwyddodd i wneud cystal ag unrhyw un arall yn y byd ar y pryd rhwng 40 i 45 oed.

Ym mis Ionawr 2003, dychwelodd Raymond i Ynys Môn i weithio fel hyfforddwr codi pwysau ymhlith yr ifanc ac i weithio i Gyngor Chwaraeon Cymru. Ymhlith yr hogiau lleol mae'n eu hyfforddi i godi pwysau mae Andrew Goswell a Gareth Evans.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý