ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwaraeon
'Wyn The Leap'
Wyn Davies

Ganwyd: 20 Mawrth 1942

Magwyd: Caernarfon


Cofi a ddaeth yn arwr i'r Toon Army a thîm pêl-droed Cymru.

Dechreuodd Ronald Wyn Davies ei yrfa bêl-droed gyda chlwb Deiniolen cyn symud i chwarae i dîm Llanberis yng Nghynghrair Caernarfon a'r Cylch tra'n gweithio yn chwarel lechi Llanberis.

Cyn bo hir cafodd ei arwyddo gan glwb Caernarfon yn y Welsh League (North) a thra'n chwarae dros y dref, dechreuodd ddenu sylw clybiau mawr fel Aston Villa a Manchester United.

Ond aros yng Nghymru wnaeth Wyn gan symud i'r Cae Ras, Wrecsam. Wedi ennill Cwpan Ieuenctid Cymru pan oedd yn chwarae i Wrecsam ym 1960, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair ym 1961 gan sgorio un o'r goliau pan drechodd Wrecsam Gaerwysg o 3 -1.

Roedd ei allu i ennill pêl yn yr awyr yn denu sylw clybiau mwy na Wrecsam a chafodd ei arwyddo gan Bolton Wanderers ym 1962 am £20,000. Ond sicrhaodd Wyn ei le yn llyfrau hanes Wrecsam wrth sgorio tair gôl yn ei gêm olaf i'r clwb - un o dri chwaraewr i daro hat-tric y diwrnod hwnnw - wrth i Wrecsam chwalu Hartlepool United 10 - 1.

Ym 1964 cafodd y fraint o wisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf mewn gêm yn erbyn Lloegr yn Wembley. Aeth ymlaen i ennill 34 cap gan sgorio chwe gôl mewn cyfnod o 10 mlynedd.

Sgoriodd Wyn 66 gôl mewn 155 gêm gynghrair i Bolton cyn symud i Newcastle United am £80,000 ym 1966 - pris oedd yn record i'r clwb ar y pryd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r Magpies yn erbyn y gelynion lleol, Sunderland, ym mis Hydref 1966. Daeth yn arwr ar Barc St James oherwydd ei ymroddiad ar y cae gyda'r Geordies yn ei fedyddio yn Wyn the Leap a The Mighty Wyn oherwydd ei ddoniau yn yr awyr.

Cipiodd Gwpan yr Inter-City Fairs - rhagflaenydd Cwpan UEFA - pan oedd gyda Newcastle ym 1969 wrth i'r Magpies drechu Ujpesti Dozsa o Hwngari a sgoriodd 40 gôl mewn 180 gêm gynghrair ar Barc St James cyn pasio'r crys rhif naw i Malcolm Macdonald pan benderfynodd ddychwelyd i ogledd orllewin Lloegr ac ymuno â Manchester City ym mis Awst 1971.

Bu bron i Wyn ennill y bencampwriaeth â City yn ei dymor cyntaf ond methodd y clwb â chipio'r gynghrair o un pwynt. Yna, wedi colli ei le yn y tîm i Rodney Marsh, symudodd Wyn ar draws Manceinion ym mis Medi 1972 i ymuno â Manchester United.

Roedd ei amser efo United yn un byr ac ymunodd â Blackpool yn yr haf o 1973 cyn gorffen ei yrfa gyda Stockport County a Crewe Alexandra yn ogystal â chyfnod byr yn Ne Affrica.

Bu'n rhaid iddo ymddeol o'r gêm broffesiynol oherwydd anaf i'w ben-glin ond llwyddodd i chwarae llond llaw o gemau i Fangor cyn ymddeol yn gyfan gwbwl a dychwelyd i Bolton i ddechrau gyrfa newydd fel pobydd.

Ers ymddeol, mae Wyn wedi aros yn Bolton ac mae'n cael pleser mawr o fynd am dro â'i gŵn bob dydd!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý