"Cwpwrdd Edwardaidd ydy o, o ddiwedd y 18fed ganrif. Daeth i'r teulu drwy rieni'r gŵr, wedi iddynt ei brynu mewn ocsiwn tua 60 mlynedd yn ôl. Mae o wedi bod gyda ni ers dros 40 mlynedd rŵan. "Daeth o hen stâd Watkin Williams Wynn, Glanllyn, ar ôl iddo farw. "Yn 1985, dywedodd un arbenigwr ei fod werth tua £800. Fe ddaru ni benderfynu anfon lluniau o'r cwpwrdd i'r Antiques Roadshow, a daeth dyn heibio i'w weld. Dywedodd y byddai'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ffonio rhwng 5 a 7 o'r gloch nos Fawrth, a chanodd y ffôn am 6. Daeth lori i'w nôl o ddoe. "Hwn ydy'r unig beth mahogoni yma. Dywedodd yr arbenigwr y dylsen ni ei yswirio am tua £3000!"
 |