ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Triawd y Coleg (Cledwyn Jones, Meredydd Evans, Robin Williams) gyda Sam Jones (canol) Yn fyw o Fangor
Mae cysylltiadau'r ÃÛÑ¿´«Ã½ â'r gornel hon o Gymru yn dyddio nôl i'r 1930au pan fyddai nifer o gyfranwyr lleol yn helpu i greu rhaglenni. Meredydd Evans sy'n sôn am ei ran o yn narllediadau'r 1940au.

"Sefydlwyd y ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mangor yn 1936, o dan arweiniad Sam Jones, a oedd eisioes wedi cynhyrchu'r bwletin newyddion Cymraeg o Lundain. Ar y cyfan, rhaglenni Saesneg i'r ÃÛÑ¿´«Ã½ Service recordwyd ym Mangor yn ystod yr ail rhyfel byd, ond erbyn yr 1940au, ehangwyd y darlledu Cymraeg.

"Roeddwn i ar y pryd yn y coleg, ac yn aelod o griw canu Triawd y Coleg. Cawsom y cyfle i berfformio'n fisol ar y rhaglen newydd Noson Lawen, gan agor a chau pob sioe.

"Cyfuniad o amaturiaid o'r coleg a'r pentrefi cyfagos oedd criw y Noson Lawen yn y blynyddoedd cynnar. Roedd gennym ni Bob Roberts Tai'r Felin, y ffermwr yn canu baledi, Richard 'Co Bach' Huws, y siopwr yn adrodd yn iaith y Cofis a Charles Williams, y gwas ffarm, yn arwain ac yn perfformio gyda'i bartner, T C Simpson, y postmon o Langefni.

"Byddai criw o fechgyn Bethesda - Cytgan - yn dod i ganu, dan arweiniad Ffrancon Tomos, a fyddai hefyd yn chwarae un o'r ddau biano, gyda Maimie Noel Jones. Yn hwyrach, daeth côr meibion Penygroes i ganu, dan arweiniad C H Leonard.

"Yn y dyddiau cynnar, byddai'r rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw. Yr oedd y cynhyrchydd Sam Jones braidd yn drwm ei glyw, a byddai popeth yn cychwyn gyda'i floedd "Stand by". Ond dan ei arweiniad, a chyda cymorth Myfanwy Howell, roedd y profiad o berfformio ar y Noson Lawen yn un gwych."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý