ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Meirion Pugh Jones Hogia'r Welsh Navy 2
Yn ail raglen ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru ar Hogiau'r Welsh Navy cafwyd hanes y rhai o ogledd Cymru aeth i'r môr a dod yn swyddogion gyda'r Blue Funnel Line.
Beth felly oedd y drefn o fynd yn swyddog? Faint o swyddogion Cymraeg oedd yna? A sut oedden nhw'n dod ymlaen gyda'u cyd Gymry ar y dec?

Manteisiodd rhai o hogiau'r gogledd ar y cyfleon yn y cwmni i ddod yn swyddogion.

Bachgen o Lŷn oedd Gwilym Owen. Ac mi roedd yna gysylltiad â Llŷn â pherchnogion y Blue Funnel Line, a dyna pam y bu i gymaint ymuno â'r cwmni. I Aberdyfi y byddai llawer yn mynd i gael eu hyfforddi - yn Gymry a Saeson.

"Roedd yna ddwy long hwylia bach yno," meddai. "Mi fydda tua dwsin ohonan ni yn cael saith diwrnod ym Mae Ceredigion. Mi fues i yno am fis ac wedyn cael fy ngalw i fyny i Lerpwl."

Wedi nifer o flynyddoedd daeth Gwilym Owen yn gapten gyda'r cwmni.

Peiriannydd oedd Meirion Pugh Jones, yn wreiddiol o Lanbedr, Meirionnydd. Osgoi gorfod ymuno â'r fyddin fel rhan o wasanaeth cenedlaethol oedd y rheswm iddo fynd i'r môr.

"Mi sgwenais i tua deugain o lythyrau ac o'r diwedd cael gwaith efo cwmni o Fryste," meddai. "Pan ddaeth y gwasanaeth cenedlaethol i ben, mi es i o gwmni oedd ddim yn gwmni mawr, i anferth o gwmni sef y Blue Funnel yn Lerpwl."

Ond sut longwyr oedd y Cymry ar y dec? "Roeddan nhw'n weithwyr da," meddai John Maldwyn Hughes, o Lanrwst yn wreiddiol, oedd yn fêt efo'r cwmni. "Môr oedd eu petha nhw'n de. Roeddan nhw'n hogia â môr yn eu gwaed nhw. Roeddan nhw'n dallt y gwaith. Roeddach chi'n gallu dibynnu arnyn nhw."

Yn y rhaglen hefyd cafwyd atgofion y Capten John Meurig Jones o Lanbedrog; Robert Arfon Jones, Llangefni, ymunodd â'r cwmni fel peiriannydd o'r Llynges; Gareth Jones o Caergeiliog ddaeth yn fêt gyda'r cwmni a'r Capten Glynne Pritchard oedd â'i dad a'i frawd eisoes wedi gwasanaethu efo'r Blue Funnel Line. Bu Eleanor Owen, gwraig y Capten Gwilym Owen, hefyd yn dweud sut brofiad oedd hi i wraig capten orfod treulio misoedd adref ar ei phen ei hun.

  • Rhaglen 1
  • Atgofion Meirion Pugh Jones o Ddyffryn Ardudwy
  • Atgofion Dylan Parry o'r Felinheli

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý