ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwyniad Gwyniaid Llyn Tegid
Dim ond yn Llyn Tegid, Y Bala, y mae'r gwyniad i'w gael. Ond mae ffactorau fel ansawdd y dŵr, diffyg ocsigen yn nyfnderoedd y llyn yn ystod yr haf, gweithgareddau pobl a newidiadau yn lefelau dŵr y llyn - wedi bygwth goroesiad y pysgodyn prin hwn.
Ond erbyn hyn mae cam olaf prosiect i adleoli'r pysgodyn prin, a cheisio'i atal rhag diflannu am byth, wedi ei gwblhau.

Prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oedd hwn, ac fel rhan ohono cafodd wyau wedi eu ffrwythloni eu symud i lyn gerllaw.

Cafodd yr wyau a gaiff eu cynhyrchu gan bysgod sy'n silio eu cymryd o Lyn Tegid, a'u rhoi mewn safle cyfagos, a'r gobaith yw y bydd poblogaeth newydd yn ffynnu yno mewn amodau mwy ffafriol.

Meddai Richard Brassington o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Yn rhannau dyfnaf ac oeraf y llyn y mae'r pysgod yma'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser, a dim ond yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn y byddan nhw'n mentro i ddŵr mwy bas yn ystod y nos i silio.

"Gwnaeth ein Swyddogion Pysgodfeydd yn fawr o'u profiad a'u harbenigedd wrth ddefnyddio rhwydi sân i ddal rhywfaint o bysgod a'u symud yn ddiogel i'w cartref newydd. (Dull o rwydo'r pysgod mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied â phosibl arnyn nhw a'r amgylchedd ydy hwn.) Wnaethon ni dal 31 o bysgod."

Yn ôl Rhian Thomas, Ecolegydd Dŵr Croyw'r Cyngor Cefn Gwlad: "Er mai dyma oedd cam olaf y prosiect adleoli yma, fe fyddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Yn ystod yr haf, fe fydd arolwg pellach yn cael ei gynnal ar wyniaid Llyn Tegid er mwyn monitro unrhyw newidiadau yn y boblogaeth. Hefyd, ymhen dwy flynedd fe fydd arolwg yn cael ei gynnal ar y llyn cyfagos i weld pa mor llwyddiannus fu'r prosiect adleoli. Y gobaith yw y bydd poblogaeth newydd o'r gwyniad yn sefydlu gydag amser."

Meddai Rob Gritten, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r gwyniad yn bysgodyn unigryw iawn, a rhaid inni wneud pob ymdrech i ddiogelu'i ddyfodol o fewn y Parc Cenedlaethol."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý