ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bandiau
Daniel Lloyd a Mr Pinc Daniel Lloyd a Mr Pinc
Sut wnaeth Daniel Lloyd gyfarfod Mr Pinc a beth sy'n eu hysbrydoli i greu cerddoriaeth gyda'i gilydd? Dyma Daniel ei hun gyda'r atebion.

Enw: Daniel Lloyd a Mr Pinc

Aelodau: Fi (Daniel) sy'n canu, Elis ar y drymiau, Mei ar y gitâr fas, Aled (Morgan) ar y gitâr ac Aled (Evans) ar yr allweddellau.

O lle: Mi ddaru ni ffurfio ym Mhrifysgol Bangor. Dwi'n dod o Rosllannerchrugog, mae Elis a Mei yn dod o Lanystumdwy, Aled Morgan o Flaenau Ffestiniog ac Aled Evans o Ynys Môn.

Disgrifiwch steil y band: Hyd yn hyn, pwysleisio yn fwy ar y melodi 'da ni, felly roc melodig.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?: Yn y coleg ym Mangor. Mi wnes i ennill sesiwn ar C2, yn canu o dan enw fy hun. Roedd yna ymateb da felly es i'r stiwdio i recordio albwm ac roeddwn angen band.

Roedd Elis a Mei wedi bod mewn band, Mr Pinc, yng Nghricieth ac felly ddaru ni ddod at ein gilydd i gydweithio. Doeddwn i ddim am i'r gerddoriaeth fod yn fy enw i'n unig, felly 'Daniel Lloyd' a 'Mr Pinc'.

Pam/sut ddaru chi ffurfio band?: Mi wnes i ddechrau chwarae gitâr yn 11 mlwydd oed. Roeddwn mewn ambell i fand yn yr ysgol a wastad ar y llwyfan rhyw ben!

O lle daeth yr enw?: Fy enw fi ydy fy enw fi wrth gwrs, ond dwi'n meddwl mai o'r cymeriad 'Mr Pinc' yn y ffilm Reservoir Dogs daeth enw'r band - roeddent yn ffans mawr!

Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: 'Da ni wedi cael lot, ond dwi'n meddwl mai'r tro cyntaf i ni chwarae'r Sesiwn Fawr yw'r gorau hyd yn hyn. Roedd chwarae ym Maes B yn wych hefyd - ar ôl gwireddu breuddwyd, mae uchafbwyntiau yn newid.

'Da ni heb gael lot o isafbwyntiau. 'Da ni wedi cael gigiau ddaru ddim mynd mor dda â hynny ond 'da ni ddim yn cymryd ein hunain o ddifrif.

Pwy ydy eich hoff artistiaid?: Mae gen bob aelod o'r band ddylanwadau gwahanol. Yn bersonol, dwi'n cael fy nylanwadu gan Ryan Adams, David Gray, Jimi Hendrix, John Mayer a bach o Queen, credwch neu beidio.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Mae'n dibynnu. Fi sy'n sgwennu'r caneuon ac weithiau ga i felodi yn fy mhen ond yn stryglo i ffeindio geiriau i fynegi rhywbeth. Neu, fel Eldon Terrace, y geiriau sy'n dod yn gyntaf. Dydy o byth yr un fath.

Efo pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes?: Dwi ddim rili yn cael brecwast, ond hoffwn 'light afternoon lunch' efo Amy Mann. Dwi ddim yn hoffi llawer o ferched sy'n canu rili ond dwi rili yn ei hedmygu hi.

Tasech chi'n anifail, pa anifail fyddech chi?: Mwnci mewn siwt soffistigedig.

Lle ydi'r lle gorau yn yr ardal i weld bandiau byw?: Mae'r sîn gerddoriaeth Gymreig yn gryf iawn yn ochrau Bangor. Mae'r Undeb yn cynnal gigs, a'r Glôb.

Lle fyddai eich lle delfrydol i gynnal gig?: Ar fynydd Rhos.

Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs?: Pobl sy'n mwynhau - dyna be da ni'n licio'i weld, diddanu pobl. 'Da ni ddim yn hoffi'r hanner cylch gwag 'na o'n blaenau!



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý