Bu myfyrwyr Cymraeg Bangor dan y lach ar lafar gwlad yn gyson yn y blynyddoedd diweddar. Roedd rhai'n eu beirniadu am eu diffyg brwdfrydedd i hybu diwylliant Cymraeg Bangor tu hwnt i'r 'Glôb', tra cwynodd nifer helaeth am eu diffyg presenoldeb yn nigwyddiadau pwysig calendr yr Undebau Myfyrwyr Cymraeg.
Nid pwyntio bys yw fy mwriad o gwbl, oherwydd yr oeddwn i fy hun yn rhan o'r gymuned 'ddi-asgwrn cefn' a dreuliodd y ddwy flynedd olaf rhwng 'J.M.J.' a'r 'Glôb'.
Ond yn barod eleni rwy'n synhwyro fod tro ar fyd.
Gyda wyneb newydd wrth lyw UMCB, mae hon yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous tu hwnt. Yn gyntaf, trefnwyd wythnos y glas llwyddiannus iawn, a roddodd gyfle i'r flwyddyn gyntaf ymgyfarwyddo â'r ddinas, y coleg, y gymdeithas Gymraeg ac â chladdu peint neu ddau!
Cafwyd nosweithiau cofiadwy fel y crôl teulu, lle penodwyd myfyrwyr o'r ail a'r drydedd fel 'teulu' i'r flwyddyn gyntaf.
Clôdd gig Bryn Fôn yr wythnos mewn steil, gyda pherfformiad egnïol fel arfer gan Genod Droog a set gofiadwy gan Nathan Williams. Ond, mae'n siŵr mai moment fwyaf gofiadwy'r noson i nifer oedd pan fentrodd un haden o'r ail y tu ôl y llwyfan i gwyno am na chanwyd yr anthem. Gyda hyn, fe ddaeth Bryn Fôn ei hun, a'r haden o Ffostrasol, i'r llwyfan i arwain y dorf i ganu'r anthem!
Ar y nos Lun ganlynol, doedd dim cyfle i eistedd yn ôl a chael ein gwynt atom wedi'r wythnos drom. Yn hytrach, parhaodd y parti gydag eisteddfod dafarn llawn adrodd gwan, canu gwannach ac ambell i ddiod i ddathlu'r cythrel canu!
Er na fentrodd llawer o'r flwyddyn gyntaf i'r noson, bu'n gyfle i'r ail a'r drydedd ailgydio yn yr hwyl sydd i'w gael mewn nosweithiau o'r fath. Yn bendant, bu'n wythnos a fydd yn sylfaen gref i'r holl ddigwyddiadau eraill sydd yn barod wedi eu trefnu ar ein cyfer am y flwyddyn sydd i ddod.
Cynhelir yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor mis Mawrth, ac rwy'n ffyddiog wedi'r argyhoeddiad a ddangoswyd yn barod eleni y bydd yn un i'w chofio.
Felly, dymunaf bob lwc i Ger am y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy'n sicr y medr adfer enw da UMCB.
Lowri Evans, Prifysgol Cymru, Bangor
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.