ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bangor

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bangor
Lowri Evans (ail o'r chwith) Ffarwelio â Bangor
Ystrydeb bellach yw dweud bod dyddiau coleg yn hedfan heibio. Felly mentraf honni mai nofio heibio y maent, ond nofiad go gyflym er hynny.
Daw pob tymor yn don i'ch herio a brwydr barhaus yn erbyn y lli yw'r tair blynedd yn y bôn. Bron i dair blynedd wedi i mi ddod i Fangor yn las fyfyriwr, fe ddaeth y daith i ben, a hynny yn llawer rhy sydyn.

Anodd oedd credu fy mod yn ffarwelio â Bangor a'r Gogledd heb i mi eto fod yn dringo'r Wyddfa neu'n troedio traethau Ynys Môn.

Dychwelodd pawb i Fangor wedi Eisteddfod yr Urdd eleni yn barod am farathon o wythnos ffarwel. Roedd nos Lun yn gyfle i ailymuno â hen ffrindiau wedi cyfnod yr arholiadau ym Mangor Ucha' ac yng nghlwb nos Amser yn yr Undeb. Roedd yr Undeb yn orlawn a phawb yn methu credu mai hon oedd nos Lun ola' ym Mangor i bron i draean o'r myfyrwyr a oedd wedi tyrru yno.

Roedd rhost mochyn wedi ei drefnu ym mwyty Glantraeth ar ein cyfer ni'r myfyrwyr Cymraeg nos Fawrth.

Mentrodd pawb allan yn eu dillad gore i ddathlu blwyddyn lewyrchus UMCB.

Diolchodd Gerallt, y llywydd, i'r holl aelodau am eu cefnogaeth drwy'r flwyddyn ac fe fynegodd Angharad, llywydd neuadd JMJ, ar ran holl aelodau UMCB ein diolch am waith caled Gerallt.

Ond yr hyn a ddaeth â deigryn bychan i lygad mwy nag un y noson honno oedd geiriau dau fachgen o'r drydedd, Prys a Gwynant. Rhaid nodi yn y fan hon mai cywir yw'r dywediad mai gan y gwirion y ceir y gwir. Llwyddodd y ddau strab yma i roi geiriau i deimladau'r drydedd gyfan wrth ddweud ychydig iawn am y profiad o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mangor dros y tair blynedd ddiwethaf.

Barbiciw yn JMJ oedd arlwy nos Fercher ola'r tymor. Chwarae teg i bwyllgor y neuadd am agor eu drysau i aelodau UMCB a'u ffrindiau am noson o sgwrsio am helyntion y noson cynt ac am gynnig un cyfle ola i ni'r drydedd i brofi arogl anghymarus yr hen neuadd!

I'r rhai a fentrodd ei gwneud yn bedair noson o'r bron, dydd Iau oedd yr uchafbwynt mae'n siŵr. Roedd crôl wedi ei threfnu gan UMCB o amgylch y dre i'r myfyrwyr sychedig a'u pennau tost. Cawsom ddiwrnod cofiadwy a noson emosiynol yn y Glôb i gloi'r dathlu a'r ffarwelio.

Hoffwn ddiolch i Gerallt unwaith eto am wneud ein hwythnos ola' fel myfyrwyr ym Mangor yn un bythgofiadwy.

Lowri Evans

  • Mwy gan Lowri ac eraill am fywyd myfyrwyr Bangor
  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý