ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Beddgelert
'Dolig ddoe a heddiw
Dyma'r hyn mae plant Ysgol Gynradd Beddgelert wedi ei ddysgu am Nadolig y gorffennol ar ôl ymweliad â Llanystumdwy, a'u hoff bethau am Nadolig y presennol.
Nadolig oes Fictoria

Ffion: "Fe aeth Ysgol Beddgelert heddiw i Lanystumdwy i ddathlu Nadolig y ffordd Fictorianaidd. Doedd dim coeden Nadolig yn oes Fictoria. Gwnaethom addurniadau ar ddarn o ledr mewn siâp coeden Nadolig"

Laura a Bethan: "Yn Amgueddfa Lloyd George ddaru ni wneud pwdin Nadolig cadach. Rydym wedi cael amser briliant. Ond byswn ddim eisio byw yn y cyfnod yno achos roedd yn annifyr!"


Kyran ag Aiden: "Amser maith yn ôl roedd Nadolig yn wahanol i'n Nadolig ni - doedden nhw ddim yn cael anrhegion fel chwaraewr CD. Roedd yr ysgolion yn gas iawn ac yn rhoi chwip i blant bach. Doedd 'na ddim addurniadau fel tinsel chwaith a doedden nhw ddim yn cael gwyliau."

Rachael: "Dwi ddim yn meddwl bydda fo wedi bod yn hwyl i fyw yn yr amser Fictoraidd, ond roeddwn yn hoffi addurno coeden Nadolig wedi ei 'neud allan o ledr!"Plant Ysgol Gynradd Beddgelert

Ceri: "Ddaru ni ddysgu sut i wneud pwdin 'Dolig clwt, ac roedden ni'n anfon y pwdin 'nol i'r ysgol a gofyn i'n cogydd, Anti Ann, i'w goginio er mwyn i ni ei fwyta! Hefyd cawsom fynd i'r dosbarth i weld sut blant oedden nhw yn amser Fictoraidd."

Anest: "Dim ond un anrheg oedd y plant yn ei gael yr adeg honno, a gesiwch beth, oren oedd yr anrheg? Oren!"

Beth am Nadolig heddiw?

Ceri: "Mae Nadolig yn amser da ym Meddgelert, oherwydd mae'n bwrw eira yma fel arfer. Dydd Mercher roedd sioe Nadolig Ysgol Beddgelert, roeddwn gen i ofn ond roedd y sioe yn dda.

Mae ysgol Beddgelert yn ysgol dda - rydan ni yn gwneud lot o waith a chanu ac yn gwneud cardiau Nadolig."

Rachael: "Dwi'n hoffi Nadolig oherwydd mae Siôn Corn yn dŵad i'n tŷ noswyl Nadolig."

Heulwen: "Rwyf yn meddwl am Nadolig fel ffordd i ddathlu geni Iesu Grist (a hefyd i addurno!]"

Sam a Daniel: "Mae Nadolig yn llawen iawn ym Meddgelert ac mae'r addurniadau yma yn fflachio'n hyfryd. Rydym ni yn hapus iawn amser Nadolig ac weithiau'n canu carolau."

Anest: "Gobeithio ceith y bobl sydd yn anlwcus amser da, a gobeithio ceith pawb Nadolig llawen o hyd a blwyddyn newydd dda bob blwyddyn."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý