ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bwyd a diod

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cyflaith a'r pwdin clwt
Dyma Meinwen Parry o Fangor i'n hatgoffa o sut i wneud cyflaith - ond, cofiwch, bod rhaid newid y popty trydan am le tân i ddilyn y rysáit yma!
Gwrandewch ar Meinwen yn sôn am ei rysáit ...

"Roeddech chi wedi gwneud hwn cyn y Nadolig. Doedd yna ddim trydan, felly roedd yn rhaid ei wneud ar dân - nid un yn fflamau i gyd, ond pan oedd wedi mynd i lawr, wedi cochi tua wyth y nos.

"Rhaid cael triog, siwgr, menyn ac ychydig bach o ddŵr a'i ferwi yn ara' deg tan fod y sŵn yn newid a'r gymysgedd yn ffrwtian. Yna cymerwch gwpan o ddŵr oer a rhoi llwyaid o'r cymysgedd ynddo. Cnociwch o yn erbyn yr ochr ac os yw'n caledu, mae'n barod.

"Yna, irwch dun a'i osod ynddo. I mi, os ydych yn ei adael yn y tun i galedu, taffi ydy o.

"Ond i wneud cyflaith, irwch eich dwylo ac, os fedrwch chi - gan ei fod yn boeth - codi lwmp o'r gymysgedd, tynnwch o yn eich dwylo tan mae'n troi'n frown golau. Bydd yn mynd yn stiff, felly torrwch o'n ddarnau efo siswrn - dyna beth yw cyflaith.

"Roedd mam yn gwneud lot ohono - roedd hi'n cadw tuniau neu botiau i'w roi ynddynt a byddai'r hen ddynion yn hoff iawn ohono.

"Roedden ni hefyd yn cael pwdin Nadolig, ac yn ei fwyta mewn clwt - roedd 'na chwech yn y teulu a doedden ni ddim yn defnyddio chwe bowlen wrth gwrs, neu fysa dim powlenni ar ôl yn y tŷ!"

  • Mwy o atgofion Meinwen a chriw Merched y Wawr, Bangor


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý