ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwobrau RAP
Aeth Angharad Dubheasa o Benrhyndeudraeth â'i chamera a'i radar roc a rôl i un o uchafbwyntiau'r calendr cerddorol yng Nghymru - Gwobrau RAP 2007.
Y Ffyrc yn casglu gwibr
Enillodd Y Ffyrc wobr am sesiwn C2 ac albym orau. next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý

"Venue Cymru, Llandudno oedd y lleoliad, Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru oedd y digwyddiad ac roeddwn wedi ymbincio yn barod ar gyfer un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn yn y sîn roc Gymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i mi fynd i'r noson wobrwyo yma a chyrhaeddais gyda meddwl agored gan fy mod wedi bod i hen ddigon o nosweithiau tebyg - rhai hir a diflas!

Roedd rhai o enwau mwyaf y sîn yn barod am noson fawr yn eu gwisgoedd gorau a chafodd llif o ddynion smart a merched tlws eu cyfarch gan y bownsars croesawus ar ddrws Venue Cymru.

Roedd y camerâu yn barod i gymeryd lluniau o'r wynebau cyfarwydd cyn iddynt setlo yn eu seddau yn y neuadd fawr ble'r oedd y seremoni ar fin cychwyn.

Cyn i'r seremoni ddechrau roedd poteli gwin ar eu hanner ac roedd yr awyrgylch yn un hwylus dros ben. Yn wir, doedd dim math o ymddygiad roc a rôl i'w weld drwy gydol y nos.

Cyflwynwyr y noson oedd Lisa Gwilym a Dafydd Du a nhw wnaeth gyflwyno set gyntaf y noson sef Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd caneuon bywiog ac egnïol y band o Ben Llŷn yn agoriad arbennig i'r noson ac roedd y gynulleidfa yn mwynhau eu cerddoriaeth 'hilbili'.

Un ar ôl y llall, cafodd enillwyr dlysau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond noson i'r Gogs oedd hi gyda'r rhan fwyaf o'r artistiaid, bandiau a digwyddiad byw y flwyddyn yn dod o ogledd Cymru.

Roedd enillwyr y noson yn sicr yn haeddu'r clod a'r unig artist absennol oedd Mim Twm Llai, cyfansoddwr y flwyddyn - sydd ar hyn o bryd yr ochr draw i'r byd.

Roedd yna lu o berfformiadau byw gan rai fel artist benywaidd y flwyddyn, Swci Boscawen, a chafwyd perfformiad gan y Ffyrc a enillodd ddwy wobr yn ystod y noson.

Genod Droog, enillwyr dwy wobr gan gynnwys band byw'r flwyddyn a orffennodd y noson gyda cherddorfa yn gwmni iddynt ar y llwyfan. Roeddent yn glo hwyliog i'r noson gyda chriw yn dawnsio o flaen y llwyfan o'r dechrau.

Ond cyn i bawb ffoi am y parti roedd cyri ar gael i bawb a siawns i drafod y buddugol a'r anfuddugol cyn mynd ymlaen i ddathlu tan yr oriau man.

Gadewais gydag atgofion da o noson wobrwyo gyfeillgar - noson gall, noson barchus i bawb.

Ond mae'r parti'n stori wahanol...."

Angharad Dubheasa, Penrhyndeudraeth

  • Mwy o'r Gwobrau RAP ar C2
  • Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý