Roedd y Theatr Fach yn llawn dop yn 2005, yn bennaf oherwydd chwilfrydedd i glywed Dooley yn chwarae detholiad o geinciau o Lawysgrif Robert ap Huw sy'n dyddio nôl i tua 1613.
Ond pwy oedd Robert ap Huw a pham fod y llawysgrif yma wedi creu cymaint o gynnwrf?
Cerddor a chlerwr o Fôn oedd Robert ap Huw a oedd yn ei ieuenctid yn ymweld â thai mân fonheddwyr lle byddai'n cael llety, bwyd a chroeso.
Yn nechrau'r 17eg Ganrif fe roddodd ar gof a chadw nifer fawr o weithiau Cymreig - cerddoriaeth draddodiadol a oedd erbyn hynny o leiaf ddau gan mlynedd oed. Mae'r gerddoriaeth wedi ei hysgrifennu mewn ffordd sy'n edrych yn astrus iawn inni heddiw.
Cafodd y llawysgrif ei dangos mewn arddangosfa gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2005 gyda'r disgrifiad yma:
"Dyma'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a'r llawysgrif hynaf mewn bodolaeth o gerddoriaeth i'r delyn. Peth o hynodrwydd y llawysgrif yw i Robert ap Huw ysgrifennu'r gerddoriaeth yn ei nodiant ei hun. Achosodd dyfeisiad cerddorol y dyn o Fôn grafu pen am flynyddoedd maith wrth i gerddorion (ysgolhaig a lleyg) geisio dyfalu beth oedd ystyr a sain y nodau.
"Cymaint oedd enwogrwydd y llawysgrif ar y pryd fel i Vivaldi sôn amdano, a hyd heddiw mae cerddorion o Gymru a thramor (ac yn enwedig yr Iwerddon) yn gwneud defnydd helaeth ohono. Cedwir y llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig."
Cerddoriaeth aruchel
Er ein bod yn meddwl am gerddoriaeth y delyn fel cerddoriaeth werin, yn ôl y darlithydd a'r cerddor Stephen Rees o Brifysgol Bangor, nid cerddoriaeth werin sydd yn y llawysgrif yma ond cerddoriaeth aruchel ac unigryw sy'n gynhenid i Gymru.
"Yn yr un ffordd ag y mae pobl yn anymwybodol o'r iaith Gymraeg, dydi pobl ddim chwaith yn gwybod am y gerddoriaeth gynhenid yma.
"Nid cerddoriaeth werin ydy cerddoriaeth y llawysgrif yma ond cerddoriaeth roedd y beirdd yn ei chwarae yn nhai'r uchelwyr. Mae'r strwythur a'r harmonïau yn hollol wahanol i unrhyw beth sydd i'w gael yn Ewrop - mae'n unigryw a dweud y gwir ond mae 'na debygrwydd rhyngddi â cherddoriaeth y pibroch (cerddoriaeth draddodiadol hynafol o'r Alban sydd fel arfer yn cael ei chwarae ar y pibgwd).
"Mae'r gerddoriaeth yn seiliedig ar thema ac amrywiadau ac mae'n dod o ffynhonnell pell iawn yn ôl.
"Fe wnaeth Robert ap Huw, a'i athro William Penllyn, gofnodi'r gerddoriaeth ond roedd wedi bodoli ar lafar lawer iawn cyn hynny. Fe gafodd ei gofnodi yn yr un cyfnod ag yr oedd y beirdd yn mynd ati i gofnodi eu repertoire hwythau.
"Yn 1613 y 'sgrifennwyd llawysgrif Robert ap Huw ond mae'r traddodiad yn llawer hŷn. Felly mae na elfen o gadwraeth ynghlwm wrth y penderfyniad i'w gofnodi. Roedd tua'r adeg roedd baledi a chanu tebyg yn dod dros y ffin o Loegr, ond roedd y gerddoriaeth yma yn gerddoriaeth aruchel iawn - bron â bod yn cyfateb i gerddoriaeth glasurol.
"Mae dau arbenigwr ar y gerddoriaeth yma. Un ydy William Taylor, Americanwr sy'n byw yn yr Alban ac sy'n gweithio gyda'r Cymro Robert Evans a'r llall ydy'r Gwyddel, Paul Dooley, (a fu'n chwarae cerddoriaeth o lawysgrifau Robert ap Huw yn Sesiwn Fawr Dolgellau). Mae'n cydweithio gyde Peter Greenhill sy'n byw yn Llanllechid.
"Mae'n iach iawn bod pobl fel hyn yn edrych i mewn i'r traddodiad. Mae'n hynod dda ei fod bellach yn cael ei gydnabod a'n bod yn darganfod haen newydd o'n traddodiad - mae'n ymestyn yr adnoddau sydd ar gael inni fel cerddorion."
Mwy o wybodaeth:
Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol