ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y tu mewn i DÅ· Siamas TÅ· Siamas
Cartref i gerddoriaeth werin
Mae canolfan i draddodiadau gwerin Cymru wedi agor yn Nolgellau. Bu'r rheolwr, Mabon ap Gwynfor, yn sôn am y cynlluniau ar gyfer Tŷ Siamas sydd ar sgwâr y dref.
  • Lluniau TÅ· Siamas

  • "Breuddwyd ambell i berson yn Nolgellau oedd TÅ· Siamas. Am ddeng mlynedd mae nifer o wirfoddolwyr wedi ceisio cael canolfan genedlaethol i gerddoriaeth werin yma, gan nad oes cartref priodol i'r math yma o gerddoriaeth yng Nghymru.

    Agoriad swyddogol
    Ty Siamas
    Agorodd TÅ· Siamas yn swyddogol ddydd Iau, 14eg o Fehefin 2007 gyda gorymdaith drwy'r dref yng nghwmni disgyblion lleol a phibwyr Cymreig a chyflwyno allwedd i'r Dr Meredydd Evans gan y plant. Cyswllt: mabon@tysiamas.com. Gwefan y ganolfan:
    'Dyw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
    "Ond yn sydyn iawn ddiwedd 2005, fe gawson nhw gadarnhad gan arianwyr Amcan Un, WDA, Cyngor Gwynedd a Chynllun Arbrofol Eryri y gallen nhw fynd ymlaen efo'r cynlluniau.

    "Bydd yna arddangosfa aml-gyfrwng i bobl yr ardal ac ymwelwyr i ddeall cerddoriaeth gynhenid trwy arbrofi, creu a chlywed - yng nghyd destun gweddill y byd.

    "Hefyd mi fydd yna awditoriwm i gynnal nosweithiau dawns a chanu gwerin a bydd ganddon ni'r gallu i recordio lleisiau ac alawon gwerin lleol i Ddolgellau, gogledd Cymru a Chymru i gyd.

    "Y gobaith hefyd yw mynd ati i gynnal digwyddiadau yn ardal Meirionydd fel nosweithiau gwerin, darlithoedd a gwersi offerynnau.

    "Y prif offeryn gwerin yw'r delyn, neu yn fanylach y DELYN DEIRES. Mae Tŷ Siamas wedi cael ei enw ei ar ol Elis Siôn Siamas, telynor o Lanfachraeth oedd yn chwarae i'r tywysogion yn y ddeunawfed ganrif. Fo wnaeth gyflwyno'r delyn deires i Gymru.

    Crwth "Mae'r CRWTH (gweler y llun) yn offeryn pwysig arall ym myd cerddoriaeth werin, a oedd bron wedi marw allan yng Nghymru tan yn ddiweddar.

    "Un arall diddorol yw'r PIBGORN, offeryn sy'n perthyn i bibau Uwchdiroedd yr Alban neu bibau Uileann Iwerddon. Mae'r rhain yn boblogaidd ond wrth fynd nôl i gyfnod y Celtiaid, maent yn perthyn i Gymru cymaint ag i'r gwledydd eraill, ond ein bod fel cenedl wedi anghofio amdanynt.

    "Yn fwy diweddar, mae cerddorion gwerin wedi mabwysiadu offerynnau fel y banjo, harmonica a'r mandolin yn ogystal â'r ffidil a'r gitâr. Gallant ddefnyddio unrhyw offeryn gwerin i greu cerddoriaeth roc, ac offerynnau roc i greu cerddoriaeth gwerin.

    "Rydym eisiau dangos bod cerddoriaeth werin yn gyfoes ond hefyd â chysylltiadau â'n cyndeidiau. Mae'n help i ni ddeall pwy ydyn ni ac o ble rydyn ni'n dod.

    "Fydd y ganolfan ddim yn amgueddfa sy'n cadw pethau y tu ôl i ffenestri gwydr, ac edrych ar bethau sydd i bob pwrpas wedi marw. Arddangosfa fyw fydd Tŷ Siamas, gyda chyfle i bobl gymryd rhan a chreu - dangos bod traddodiadau gwerin Cymru yn fyw ac yn datblygu.

    "Mae Cymru wedi profi ein doniau yn y byd pop/roc gyda 'Cool Cymru' y 1990au. Mae'n amser rŵan i hyrwyddo a dangos bod ein cerddoriaeth gynhedig cystal ag unrhyw draddodiad ledled y byd."

  • Canolfan werin: cefndir a barn yr arbenigwyr
  • Mwy am ein hofferynnau gwerin:

  • Y delyn deires.
  • Pibgorn

  • Crwth.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý