ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cai Griffiths
Cai Griffiths

Nid Robin McBryde yw'r unig ogleddwr i ennill y Gamp Lawn yn y blynyddoedd diweddar. Dyma sut gwnaeth Cai Griffiths o Bontnewydd ddilyn y bêl hirgron i'r de a dod yn rhan o lwyddiant tîm Cymru o dan 21.

"Wnes i ddim cychwyn chwarae rygbi tan oeddwn i'n 13 yn Ysgol Syr Huw Owen. Roedd wastad yn well gen i chwarae pêl-droed ond mi wnes i dyfu'n rhy fawr i'r gêm yna! Fy safle yw prop pen tyn, sef rhif 3 yn y sgrym.

"Mi wnes i astudio hamdden a chwaraeon yn y chweched dosbarth ac mi ges i fy newis i chwarae dros dimau Ieuenctid Cymru ac Ysgolion Cymru Mi ddaru Lyn Jones, hyfforddwr y Gweilch, ddod i wylio gêm Ysgolion Cymru ac mi ges i'r cynnig i fynd lawr i Gastell Nedd.

"Mae 'na ddigon o gyfleoedd yn y gogledd i chwarae rygbi, er mae'n bwysig bod y chwaraewyr ifanc yn dod i olwg timau mawr y de. Mae'n rhaid iddyn nhw felly chwarae mwy yn erbyn timau o'r de - dim jest timau o'r gogledd yn chwarae eu gilydd.

"Dwi'n chwarae i Gastell Nedd ac yn hyfforddi efo sgwad y Gweilch. Dwi'n gobeithio cael cyfle i chwarae i'r Gweilch y flwyddyn nesaf ond mae rhai o brops gorau Cymru ar y tîm ar hyn o bryd - Adam Jones, Duncan Jones, Paul James. Maen nhw i gyd yn barod i gynnig cyngor a dwi'n dysgu lot ganddynt.

"Dwi wedi mwynhau symud lawr i'r de i chwarae, er ges i stic gan y bechgyn am fy acen i gychwyn! Does na ddim lot o Gofis lawr fan hyn.

"Dwi hefyd wedi chwarae i dimau o dan 19 a 21 Cymru. Roedd y tîm dan 21 llynedd yn un ifanc a ddaru ni gyd 'jelio' yn syth, ennill profiad a magu hyder erbyn tymor 2004/5.

"Y gêm anoddaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad (o dan 21) oedd yr un yn erbyn Ffrainc. Roedd yn rhaid i ni amddiffyn ar ein llinell ni am dros 20 munud cyn i ni lwyddo i ennill ac wedyn dechrau meddwl bod ganddon ni'r gallu i ennill y gamp lawn.

"Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn wych a dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Felly, i unrhyw un sydd eisiau gyrfa fel chwaraewr rygbi - gwrandewch ar yr hyfforddwyr a gwnewch eich gorau ym mhob gêm - 'da chi byth yn gwybod pwy sy'n gwylio!"



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý