ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Hybu chwaraeon
Dyma Bryn Evans o adran chwaraeon Cyngor Gwynedd yn sôn am y gwahanol gynlluniau sydd ar gael i hybu chwaraeon yn yr ardal.

"Mae sawl cynllun yn hybu chwaraeon yn yr ardal yma. Mae cynllun cymorth grant ar gael gan Gyngor Chwaraeon Cymru a hefyd y cynllun Cist Cymunedol. Caiff y cynllun hwnnw ei ariannu gan y loteri i gefnogi datblygiad chwaraeon yn y gymuned.

"Mae croeso i unrhyw un o'r gymuned wneud cais i un o bwyllgorau cist cymunedol Gwynedd, Conwy neu Ynys Môn."

Cerdyn aur gogledd Cymru
"Dyma'r cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru mewn unrhyw chwaraeon ddefnyddio canolfannau chwaraeon gogledd Cymru yn rhad ac am ddim.

"Rydyn ni yng Ngwynedd hefyd yn cynnig Cerdyn Aur Gwynedd, sy'n galluogi i unrhyw un sydd wedi cystadlu dros Wynedd ddefnyddio cyfleusterau hamdden y sir am ddim."

Campau'r Ddraig
"Diben y cynllun yma ydy rhoi mwy o gyfle i blant gymryd rhan mewn chwaraeon mewn awyrgylch ddiogel, gyda hyfforddiant o safon - yn enwedig plant sydd ychydig bach yn ofnus o fod mewn amgylchedd clwb chwaraeon. Cael hwyl a mwynhau ydy pwrpas y clybiau.

"Caiff y cynllun ei redeg ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a'r awdurdodau lleol.

"Nod y cynllun yw annog plant rhwng saith ac 11 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon tu allan i oriau ysgol.

"Bydd swyddog yn gweithio gydag ysgol gynradd i helpu i sefydlu clwb ar ôl ysgol, gan gynnig bag o offer gwerth £250 a chymorth gyda'r hyfforddiant. Caiff pob ysgol offer ar gyfer dau fath o chwaraeon gwahanol, yna mae'n rhaid i'r ysgol dalu 20% o gostau'r offer ar gyfer chwaraeon eraill.

"Mae'r clybiau yn cael eu cynnal gan athrawon, rhieni neu wirfoddolwyr eraill sydd â diddordeb mewn helpu'r ysgol.

"Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei hyfforddi i'w galluogi i gynnal sesiynau yn ddiogel a hwylus ac yna byddant yn cael eu hannog i fynd ymlaen i wneud cwrs mewn chwaraeon penodol.

"Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cynnwys pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd, tennis, criced ac athletau.

"Mae tua 80% o ysgolion cynradd Gwynedd wedi cychwyn clybiau gyda chymorth Campau'r Draig ac mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y cymorth yma i glybiau chwaraeon hefyd."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý