"Dwi wedi bod yn chwarae pêl-droed ers pan oeddwn i'n saith oed - chwarae efo'r bechgyn mewn timau cymysg. "Dwi'n chwarae i dîm merched Pwllheli. Mae'n glwb gwych - maen nhw wedi ennill y gynghrair dair gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. "Felly dwi'n mynd am hyfforddiant i Bwllheli unwaith yr wythnos ac efo'r bechgyn ar noson arall. Dydy hi ddim yn ddrwg chwarae efo'r bechgyn a dweud y gwir. "Dwi'n chwarae ar yr asgell dde neu'r chwith, er fod yn well gen i dde. Does gen i ddim hoff chwaraewr - well gen i greu fy steil fy hyn. "Dwi'n 14 ac ar ôl treialon y llynedd, cefais fy newis i ymuno efo carfan o dan 16 Cymru. Da ni 'di bod yn chwarae yn yr Iwerddon mewn cystadleuaeth yn erbyn Iwerddon, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mi ddaru ni guro Gogledd Iwerddon ond yn anffodus colli oedd ein hanes i'r ddau dîm arall. Ond mi gefais i'r cyfle i chwarae ym mhob gêm ac roedd hynny'n brofiad gwych. "Mi fyswn yn hoffi cario mlaen i chwarae i Gymru ond dwi ddim yn siŵr eto am yrfa mewn pêl-droed. Dwi'n hoff iawn o chwarae hoci hefyd (sydd yn fwy 'ryff' na phêl-droed) a dwi hefyd yn brysur adref ar y fferm." Ond beth am y rhieni pan mae'r plant yn brysur yn y byd chwaraeon? Dyma brofiad mam Manon, Eirian:"Mae ganddon ni ddwy o ferched ac mae'r ddwy yn hoff o chwaraeon, er mai dim ond Manon sy'n chwarae pêl-droed. Mae hi wedi bod yn chwarae ers pan oedd hi'n hogan fach a dwi wedi dod i ddeall 'chydig am y gêm wrth fynd i'w chefnogi hi. "Ei thad sy'n gwybod fwyaf am y gêm, er nad ydy Manon yn gwrando llawer ar ei gyngor! "'Da ni'n brysur yn mynd â hi nôl ac ymlaen i ymarferion ond dydan ni ddim yn meindio. "Mae chwarae pêl-droed Manon wedi mynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn ohoni. Mae chwarae i dîm Cymru o dan 16 a hithau'n 14 yn dipyn o gamp."
 |