Anfonodd Hefin Owen, sy'n yrrwr trenau ar Reilffordd Llyn Padarn, luniau aton ni o'r band yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ar Ebrill 3, 2007.
"Dyma luniau o'r band ieuenctid Americanaidd o Pennsylvania ar eu taith gyntaf dramor. Sefydlwyd bwrdeistref Bangor Pennsylvania yn 1875 gan Robert Morris Jones o Ddinas Bangor, Gwynedd, Cymru. Mae yna 150 o ieuenctid yn chwarae yn y band ac yn gwisgo dillad giard Cymreig," meddai.
Y noson honno roedd y band yn gorymdeithio drwy ddinas Bangor hefyd. Meddai Maer Bangor, y Cynghorydd Douglas Madge: "Daeth 150 o aelodau'r band ieuenctid o Fangor, Pennsylvania drosodd i chwarae i ni. Mae yna bump Bangor yn America, a chafodd yr un yma ei enwi ar ôl ein Bangor ni. Mae gan yr heddlu ddraig goch ar ddrysau'r ceir ac roedd y band yma yn gwisgo gwisg y Gard Cymreig.
Daeth 150 o gyfeillion a theulu draw hefyd, gan fod nifer fawr yn ddisgynyddion i chwarelwyr yr ardal ac roedd Maer Madge yn falch o'u croesawu. "Cododd y gerddoriaeth galon y dref yn fawr iawn ac maen nhw'n sôn am ddod 'nôl - er dwi'n falch na fyddaf yn Faer yr adeg honno gan fod hyn wedi cymryd lot fawr o drefnu. Mae ffeindio lle i bron i 300 o bobl aros yn logistical nightmare!"
Y diwrnod canlynol, roedd y band yn perfformio parêd yng Nghastell Harlech a Chastell Caernarfon fel rhan o ddathliadau'r daith wythnos o hyd ledled y Deyrnas Unedig o'r enw 'Tribute to Heroes'.
Sefydlwyd Band Gorymdeithio Ysgol Uwchradd ardal Bangor ym 1975 ac maent yn ymfalchïo yn ei treftadaeth Gymreig gyda gwisgoedd y gorymdeithwyr wedi ei seilio ar wisgoedd y Gwarchodlu Cymreig. Gŵyr Harlech a Rhyfelgyrch Capten Morgan yw'r gerddoriaeth ar gyfer dau o'u gorymdeithiau mwyaf poblogaidd.
Meddai John F Reinhart, uwcharolygwr ysgolion, rhanbarth ysgolion ardal Bangor: "Bwriad y daith 'Tribute to Heroes' yw amlygu'r cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol rhwng trigolion Gogledd Cymru a phobl ardal lechi Pennsylvania, a elwir y Slate Belt.
Dywedodd hefyd fod y band wedi bod yn telu teyrnged i luoedd y cynghreiriaid a wnaeth hedfan o RAF y Fali, Ynys Môn yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ogystal â llinach deuluol Gymreig honedig yr Arlywydd Thomas Jefferson.
 |