ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Maes-B, Clwb Rheilffordd
Poppies, Swci Boscawen, Mr Huw, Clwb Rheilffordd Bangor 05/02/06
Roedd hi'n noson oer, aeafol, ac roeddwn i'n flin ac yn flinedig ar ôl taith bedair awr mewn bys o Aberystwyth y bore hwnnw. Wrth i mi ymlwybro'n araf fyny'r allt, tuag at y clwb, mi stopiais i mewn syndod... ysgrifenna Cai Dyfan o Lanrug (lluniau gan Aled Roberts)
Mr Huw yn DJo
Mr Huw next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý

Y tu allan, roedd y ciw mwya dwi erioed wedi ei weld mewn gig Gymraeg wedi ffurfio. Taenodd gwên ar fy wyneb. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, roedd hon yn amlwg am fod yn noson i'w chofio.

Camais i fewn i'r adeilad a chael fy nghyfarch gan rythmau ffynci DJ Dyl Bili, sy'n chwarae lot o stwff dawnsiadwy soul/ffync/latin gwych. Roeddwn i'n hoff iawn o Siop Siafins sef tiwn brakebeat hip hop gan Dyl Bili ei hun, sydd â sampl o'r hen raglen deledu wedi'i blethu mewn yn effeithiol iawn. Ffwnc.

Gyntaf ar y llwyfan oedd Mr Huw, sef prosiect solo Huw o Kentucky AFC. Hon oedd gig gyntaf Mr Huw, ond roedd y perfformiad yn broffesiynol ac yn hyderus iawn. Rhyw gymysgedd reit cŵl o bync ac indie oedd gan Mr Huw i'w gynnig, wedi'i gyfuno â geiriau doniol, diddorol, a phrofodd y caneuon i gyd yn gofiadwy iawn. Uchafbwynt y set i mi oedd y gan olaf, Tanllwyth o Dân, ble symudodd Huw at symbal, a dechrau waldio'r peth yn racs efo drumstick, tra'n dal i ganu a chwarae keyboard ar yr un pryd! Mae dyfodol disglair i'r artist hwn 'swn i'n ddeud.

Wedi set fyr gan Dyl Bili, camodd diva y sîn roc Gymraeg i'r llwyfan, Swci Boscawen. Roedd ei sgert yn fach, a'i hamrannau ffug yn fawr, a pherfformiodd set wych, llawn carisma. Cawsom set reit bynci, a ffynci ar brydiau, oedd yn swnio bron fel sdwff MC Mabon neu fel sdwff y Fflaps.

Roedd presenoldeb llwyfan Mared Lenny yn anhygoel, ac roedd y caneuon yn gofiadwy iawn, "dwi di dawnsio rownd y polyn, dwi di siglo fy nhin", gwych! Neis gweld dipyn bach o 'glam' yn yr srg o'r diwedd!

Ar ôl cael fy mwydro gan ryw foi meddw oedd yn ceisio fy mherswadio i ddechrau chwyldro comiwnyddol efo fo, prysurais at flaen y llwyfan ble roedd y band nesaf a phrif act y noson yn paratoi i chwarae. Roeddwn i wedi edrych mlaen i weld y Poppies yn fyw ers Sesiwn Fawr flwyddyn dwytha, a rargol annwyl, ches i'm o'n siomi!

Rhain yn bendant oedd uchafbwynt y noson. Roedd y set yn egnïol, ac roedd y sŵn yn aeddfed ac yn broffesiynol iawn, ac roedd ymateb y dorf yn wefreiddiol, gyda phawb yn y tŷ bron, ar y dans fflôr yn symud i Sex Sells. Diweddglo arbennig i noson lwyddiannus arall gan Maes B yn Nghlwb y Rheilffordd. Cadwch i fyny â'r gwaith da!

Cai Dyfan

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Lluniau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý