ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Parti - Dathlu
gan Llinos Roberts o Lanllyfni.
Rwy'n eistedd yn fy hen gadair, wrth ymyl yr hen gloc, wrth yr hen luniau, yn yr hen, hen barlwr, yn yr hen, hen dŷ, sydd ar yr hen, hen lôn. Mae'r cloc yn eistedd wrth y piano yn disgwyl i rywun ddod â'i achub o'r gwynt a'r glaw. Mae twll anferth yn y to. Mae'r twll yn y to yn hen hefyd, ers i barti priodas mawr fy merch, Ellen, gael ei gynnal yma 70 mlynedd yn ôl. Mae hi yn 90 rwan. Anodd coelio dwi'n gwybod.

Parti priodas Ellen oedd hi, y ferch ieuengaf, wel, merch ieuengaf fi a fy ngŵr Jimmy. Jimmy Glyn Tiddle Roberts. Dyna ei enw.

Wel, well im gario 'mlaen hefo fy stori rŵan, neu wnai byth orffen. Roedd hi'n noson stormus ofnadwy - y moroedd yn rhuo a'r gwynt yn chwythu yn gas am y plas.

Plas Mawr yr Oerfel ydi enw'r plas yma. 'Sgwn i pam?!

Dwi'n cofio cael amser da yn y parti, dawnsio gyda Jimmy, bwyta llond bol o fwyd a chroesawu pawb i mewn i'r tÅ· a ballu. Wel, roeddwn i'n cael amser da iawn ar y cyfan, ond ... am hanner nos, fe aeth bob dim o chwith. Baglodd Elwyn Cadwaladr Owen dros y mat wrth garlamu i chwilio am ddiod. Rhaid imi gyfadda - fedrwn i ddim peidio chwerthin o dan fy ngwynt!!

Fe ddechreuodd John Plas Pen-Blodyn chwythu'r canhwyllau allan yn ddireidus!

Roedd Mrs James o Blas Gwynn yn ffraeo gyda Lora y forwyn, y gerddorfa eisiau mynd adref, y bwtler yn flin oherwydd ei fod wedi blino, ffrog briodas Ellen hefo gwin coch yn llifo drosti fel gwaed, roedd y storm mor sarrug, roedd y ffenestri yn crynu, roedd sŵn anferthol yn dod o'r to a, a ... YN SYDYN, clywais rywun yn sgrechian am Mary: "MARY!!!! MARY!!! WYT TI'N IAWN!? EWCH I NÔL Y DOCTOR!!!"

Roedd y to wedi disgyn. Rhyfedd. Tydy neb yn y byd yn gwybod ble mae Mary rwan ... heblaw amdanaf fi.

Fi ydi Mary.

Ysbryd ydw i.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý