ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Tocyn Loteri
gan Meinir Fôn Hughes o Garmel.
"Diwrnod diflas a glawog arall," ochneidiodd Mr Davies Jones wrth ddarllen ei bapur. Hen ddyn diflas oedd Mr Davies Jones, oherwydd hynny roedd pawb yn ei alw yn 'Mr DJ. Diflas.' Roedd o bob amser yn gwylio'r teledu a bwyta pop-corn ac yn yfed diod pop a doedd o BYTH yn gwneud dim byd ar ei ben ei hun. Roedd o yn dweud wrth ei wraig am wneud bob dim yn ei le!

Un dydd Sadwrn arferol, diflas, anniddorol arall, penderfynodd Mr Davies Jones fynd i'r dref i brynu ei docyn loteri oherwydd bod ei wraig wedi mynd i siopio i Tesco. Roedd pawb wedi synnu ei weld o yn mynd ar ei feic tua'r dref oherwydd fel arfer, yn tÅ· yn darllen ei bapur y byddai bob wythnos. Ond y dydd Sadwrn yma, roedd o am fentro i wneud rhywbeth gwahanol ...

Mentrodd i'r siop yn nerfus i brynu ei docyn. Rhoddodd arian i'r siopwraig a gwthiodd y darn papur bach i waelod ei boced. Yna trodd ar ei sawdl a chychwyn yn ôl ar ei feic ...

Ar ôl cyrraedd adref o'r dref eisteddodd Mr Davies Jones yn ei gadair o flaen y teledu. Roedd o yn gafael yn dynn yn y tocyn loteri. O'r diwedd ymddangosodd y rhaglen deledu ac yna daeth y rhifau ar y sgrîn, y rhifau oedd 6, 29, 13, 11, 42, 18. Dyna'r UNION rifau yr oedd o wedi eu dewis! Eisteddodd Mr Davies Jones yn hollol lonydd am o leiaf pum munud. Pan ddaeth ei wraig a'i blant i fewn, gofynnodd Sam, ei fab hynaf:

"Dad, beth sy'n bod?"

"Dwi wedi ennill y loteri, dwi wedi ennill, HWRE, HWRE."

Neidiodd ar ei draed, rhedodd mor gyflym ag y gallai ar hyd y stryd nes oedd pawb yn y pentref yn ei glywed. Am y tro cyntaf ers tro, gwelodd pawb Mr Davies Jones yn gwenu!


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý