gan Non Pritchard
"Coda" gorchmynnodd Sami a oedd yn trïo'n galed i gael ei ffrind allan o'r gwely i ddiwrnod arbennig iawn, ei phriodas!!
"Ond be os dydi o ddim eisiau?" gofynnodd Mari wrth ddechrau codi o'i gwely.
"Ti'n gall hogan mae'r boi wrth ei fodd gyda ti a rydych chi wedi bod gyda'ch gilydd am 3 mlynedd neu fwy!"
"Ond, ond dydw i ddim eisiau," gwaeddodd Mari. "Hei wrth gwrs bo chdi eisiau nawr cymon! Nerfus wyt ti dyna i gyd."
Yn y diwedd cododd y ddau a dechrau estyn allan y ffrogiau prydferth a'r goron arian oedd hi yn mynd i wisgo i edrych fel brenhines!!
Dechreuodd Mari feddwl, roedd hi yn mynd i fod gyda Siôn am byth bythoedd a doedd dim troi nôl ac ella plant. Dechreuodd feddwl wedyn, a oedd hi eisiau priodi Siôn.
A oedd hi'n hapus?
A oedd hi eisiau bod yn sengl? Gwibiodd cwestiynu drwy ei meddwl fel tân gwyllt. Yn sydyn teimlodd ei bol yn dechrau chwyrlïo a fuodd yn sâl deirgwaith. Ond fe wyddai yn ei chalon ei bod mewn cariad â Siôn ac roedd hi eisiau bod gyda fo am byth.
 |