ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Modelau ffasiwn Dylunio dillad
Ydych chi wedi cael llond bol ar wisgo fel pawb arall sy'n prynu dillad o siopau'r stryd fawr? Beth am ddilyn esiampl Ceri a Lowri o Ysgol Uwchradd Tywyn a dylunio eich dillad ffasiynol eich hun.

"Mae yna rai pobl fyddai byth yn meddwl am ddylunio dillad ond rydyn ni, Ceri a Lowri, yn hoffi gwneud.

Manteision

  • Y ffaith bod o'n gwneud eich steil yn fwy unigryw.
  • Fydd neb yn y byd efo'r un bag neu dop â chi.
  • Mae ffrindiau'n dweud ein bod ni'n wahanol ond mae gwahanol yn gallu bod yn dda efo dillad.

    Anfanteision:

  • Achos fod lle 'dan ni'n byw yn fach (am ei fod yn bentref) mae'n anodd ofnadwy i fynegi ein hunaniaeth.
  • Mae'n cymryd amser ac rydach chi'n gorfod cael amynedd i fynd drwy'r broses i gyd (ond mae'n teimlo'n dda iawn pan 'dach chi'n gorffen).

    Y broses ddylunio i wneud top neu grys:

    1. 'Dach chi'n GORFOD cael patrwm. Dydach chi ddim yn gallu torri allan darnau o ddefnydd a'u gwnïo at ei gilydd. Rhaid ichi gael y mesuriadau yn gyntaf, yna rhowch y dyluniad efo'r mesuriadau ar grease proof paper neu bapur sbesial o siop ddefnydd.
    2. Rhowch eich patrwm ar y darn o ddefnydd 'dach chi eisiau ar gyfer y corff a torrwch o'i amgylch gan ei gadw yn ei le efo pinau.
    3. Gwnïwch beth bynnag 'dach chi ei eisiau ar ffrynt neu gefn y defnydd ar gyfer y corff, wedyn troi'r ochrau ar y top a'r gwaelod drosodd i'w gwneud yn daclus.
    4. Wedyn rhoi strap y dyluniad ble 'dach chi eisiau iddo fod a rhoi darn arall o ddefnydd yr un siâp o'r ochr top drosto a'i wnïo yn ei le.
    5. Yn olaf, gwnïo ochrau y dyluniad at ei gilydd yn DACLUS a 'dach chi wedi gorffen!"

  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý