ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sharron Smith gyda Gareth Evans, warden cefn gwlad Nant y Pandy
Gwarchodfa natur ar gyrion tref farchnad Llangefni yw Nant y Pandy neu'r Dingle, fel mae'n cael ei alw ar lafar gwlad. Swyddog Prosiect y Dingle, Sharron Smith sy'n sôn am ddatblygiadau'r blynyddoedd diwethaf.
"Mae coetir y Dingle yn Llangefni yn cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn ac yn Warchodfa Natur Leol ddynonedig ers 1996.

"Dechreuodd y gwelliannau yn 2002 gyda prosiect Ehangu'r Dingle pan dderbyniwyd grant Cydcoed o £160,000 gan y Comisiwn Coedwigaeth ac arian Amcan Un.

"Gwelodd hyn 650 metr o lwybr bordiau pren, pedair pont newydd a cherfluniau pren yn cael eu creu ar y safle. Cafodd y gwaith ei wneud wedi ymgynghori gyda'r gymuned a gwaith gyda grwpiau cymunedol.

"Cyn y gwaith yma roedd y Dingle yn hafan i bobl oedd yn camddefnyddio sylweddau ac alcohol. Mae 40,000 o ymwelwyr bellach yn ymweld â'r Dingle yn flynyddol a gwelwyd gostyngiad mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol. Credir bod defnydd rheolaidd gan y cyhoedd yn helpu i "blismona'r" ardal.

"Dechreuodd gwaith prosiect i ymestyn y Dingle yn 2004 ac mae'n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chwmni Tref Llangefni ac mae wedi ei ariannu gan grant gwerth £122,000 gan Gronfa'r Loteri.

Llwybr Nant y Pandy

"Nod y prosiect hwn yw ehangu gwerth cadwraeth a chymunedol y coetir. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy brynu tir fydd yn gwneud y coetir yn ecolegol gynaliadwy a chynnwys y gymuned drwy deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau gyda ysgolion a grwpiau lleol.

"Pan ddechreuodd y prosiect ehangu roedd y Dingle yn 10 hectar o faint. Ers hynny mae tair hectar arall wedi ei brynu ac mae'r tir yn cynnwys yr hen dŷ pwmp. Oherwydd problemau yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac alcohol roedd angen datrys y broblem.

"Penderfynwyd trawsnewid yr adeilad yn lloches ar gyfer ystlumod a dyfrgwn, gan fod y ddau rywogaeth i'w canfod yn y coetir a'i fod yn gyfle i ehangu'r cynefin. Sicrhawyd arian cyfatebol gan Gronfa Her Natur Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Eu nod ydy sbarduno cadwraeth ymarferol ar gyfer rhywogaethau sydd yn rhan o Gynllun Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig.

"Ni fu'n bosib i'r cyhoedd gael mynediad i'r adeilad ers i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2005 ac ni fu tystiolaeth o gamddefnyddio sylweddau. Mae'r gwaharddiadiad ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn cynnwys rhan o'r Dingle - o'r bont reilffordd i'r eglwys. Y gobaith yw y bydd y mesur hwn yn helpu i leihau achosion o yfed yn y coetir.

"Ymysg y cynlluniau ar gyfer y dyfodol mae prynu 3.5 hectar o dir gydag arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r broses o blannu coed wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd yn y Dingle. Bydd estyniad 350 metr i'r llwybr bordiau pren yn agor i'r cyhoedd yn 2006, diolch i arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

"Bydd digwyddiadau cymunedol ac ymweliadau ysgolion yn parhau drwy'r flwyddyn."

  • Taith luniau Nant y Pandy

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Addysg
    Hanes
    Lleol i Mi


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý