ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Porthmadog
William Pike gyda'r glorian pwyso 'baco Cysylltiad criced
Mae Mr William Pike, 74 oed, yn wyneb cyfarwydd tu ôl i gownter siop bapur newydd Pike's ym Mhorthmadog. Mae'n datgelu cysylltiad y busnes - sydd yn y teulu ers tair cenhedlaeth - â chriced.
"Mae'r siop yma wedi cael ei rhedeg gan fy nhaid, fy nhad a minnau ac mae'r ferch yn helpu yma rŵan hefyd.

"O Nottingham roedd fy nhaid yn dod. Roedd yn gricedwr proffesiynol a ddaeth yma i chwarae i dîm Porthmadog. William Pike oedd ei enw, fel finna.

"Pobl y stâd - y gentry lleol - wnaeth ofyn iddo ddod yma i chwarae. Mi fuodd yn dysgu criced ym Mhwllheli wedyn ac, ar ôl i'w amser fel cricedwr ddod i ben, mi helpwyd o gan y gentry i brynu'r siop yma yn 1902.

Siop Pike's "Mi ddaru fy nhaid fagu pump o blant yn y seler o dan y siop yma. Roedd fy nhad yn dair oed pan ddaeth y teulu yma i fyw ac mi briododd o yn lleol.

"Mae'r 'Pike Trophy' yn dal i gael ei roi i'r tîm gorau yn league criced yr ardal.

"Tobacconist oedd y siop i ddechrau - doedden nhw ddim yn gwerthu da da o gwbl. Ond mi aeth gwerthiant sigaréts i lawr. Roedd 27 o siopau'n gwerthu sigaréts yma ers talwm ond dim ond tair sydd rŵan. 'Da ni'n gwerth papur a da da a phob math o betha yma rŵan. 'Da ni'n dal i bwyso 'baco ar y glorian - mae owns (25g) yn costio £3.90.

"Rydan ni hefyd yn gwerthu cetynnau a sigaréts. Ers talwm roedd dwy neu dair siop yn gwerth range reit dda ond erbyn hyn mae na ambell un yn dod yma o Birmingham i brynu 'baco a chetyn gan fod gymaint o siopau 'baco bach wedi cau rŵan. Ac ydw - mi rydw i'n smocio hefyd!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý