ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Meinir Gwilym yn arwain taith gerdded Amlwch Profi'r hud ar droed
Fel rhan o ymgyrch Yma i Chi ar Ynys Môn atebodd nifer wahoddiad ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru mewn cydweithrediad â Menter Môn i ddathlu Llwybr Arfordirol Ynys Môn drwy ymuno â chyflwynwyr Radio Cymru ar bedair daith gerdded.
Cerddwch efo Dei Tomos, Meinir Gwilym, Nia Roberts a Jonsi ynghyd â chynrychiolwyr o Fenter Môn a'r bobl a ymunodd â nhw ar y diwrnod drwy'r sioeau lluniau yma i gael blas o'r llwybrau.

CerddwyrTaith Rhoscolyn gyda Dei Tomos
Dechreuodd y gyfres o bedair am 7.30am o Eglwys Gwenfaen ac o amgylch ardal Rhoscolyn.

Cerddwyr ger y FenaiTaith Hanesyddol Llangoed gyda Nia Roberts
Gan ddechrau o faes parcio Llangoed roedd y daith 4 milltir hon yn ymweld â Goleudy Penmon.

Jonsi ac Elfyn RobertsTaith fyd-enwog Moelfre gyda Jonsi
Roedd y drydedd daith 5 milltir o Wylfan Moelfre yn ymweld â sawl safle hanesyddol.

Jonsi ac Elfyn RobertsTaith Arfordirol Amlwch gyda Meinir Gwilym
Gan ddechrau am 2pm y pnawn yn Llaneilian, roedd y daith ola'n dilyn yr arfordir creigiog at Borth Amlwch.

Roedd y teithiau i gyd yn cael eu harwain gan dywyswyr hyddysg yn hanes yr ardaloedd a oedd yn arwain y cerddwyr trwy bentrefi a chefn gwlad gan adrodd hanesion cyffrous am longddrylliadau, canibaliaeth, smyglwyr ac ysbrydion a darlledwyd sgyrsiau byw o'r gwahanol deithiau ar amrywiol raglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru drwy'r dydd.

I weld manylion y daith yn llawn ewch i'n safle Cerdded ac i anfon eich lluniau aton ni, ebostiwch at: gogleddorllewin@bbc.co.uk

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdded Ynys Môn a gynhelir ym mis Mehefin ewch i www.angleseywalkingfestival.com neu ffoniwch 01248 725 737 / 700 neu e-bostio alan@mentermon.com



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý