MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
| ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page Cymru'r Byd Addysg |
||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
|
Ei gwys ei hun
Cyn agor ei gwys ei hun ym myd y ddrama Gymraeg simsanodd Gwenlyn Parry rywfaint rhwng dau fath arall o ddrama yn ôl y cynhyrchydd, George Owen. Dywedodd George Owen i Gwenlyn ymddiddori’n gynnar yn theatr y Kitchen Sink a darllen llawer ar weithiau dramodwyr fel John Osborne ac Arnold Wesker yn ogystal â gweithiau Pinter a Ionesco a dramodwyr eraill yr abswrd. "Dwi’n meddwl," meddai George Owen, "iddo simsanu rhwng y ddau am gyfnod ond yn y diwedd fe agorodd ei gwys ei hun, cwys newydd yn hanes y ddrama Gymraeg." Dywed mai ei gyfaill agos, Huw Lloyd Edwards, oedd yr agosa ato yn y Gymraeg.
CydweithioÂ’n bwysig "Y fo oedd y cyntaf i ddod i mewn i uned sgriptiau newydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ac ar ei ôl o fe ddaeth Meical Povey, Sion Eirian, Rhydderch Jones am gyfnod, T. James Jones, William Jones - yr oeddan nhwÂ’n dylanwadu llawer iawn ar ei gilydd." "Yr oedd cydweithioÂ’n bwysig iddo fo ac yr oedd rhai oÂ’i weithiau bron a bod yn gywaith, gydaÂ’r ddrama deledu, Grand Slam, yn enghraifft arbennig o hynny." Cadarnhaodd George Owen stori hefyd ynglyn â diweddglo Saer Doliau. "Bu trafod mawr sut y dylaiÂ’r ddrama orffen ac yn y diwedd fe ddwedodd Gaynor Morgan Rees, ‘Pam na chanith y teliffon?Â’ "Flynyddoedd wedyn pan oeddwn iÂ’n ail wneud y ddrama ar gyfer y teledu gofynnais iddo fo a hoffai o gael diweddglo arall iÂ’r ddrama. Ac yntau wedi cael blynyddoedd i feddwl, gwrthod wnaeth o." "Mi ês i cyn belled â recordio dau ddiweddglo ond roedd oÂ’n bendant mai y teliffon yn canu oedd o eisiau. Er nad oedd o ddim yn gwybod pam Â’chwaith." Ychwanegodd: "Roedd yna fersiwn llwyfan ac un teledu, cast gwahanol, cynhyrchiadau hollol wahanol. Y fi gynhyrchodd yr ymdriniaeth deledu ac mi gês i benrhyddid ganddo fo." "Mi ddaeth i lawr i Gaerdydd i weld y ffilmio a gweld yr adeg honno beth fedraiÂ’r cyfrwng ei gyfrannu - ac mi ddotiodd at hynny." "Rhyddid ar raff oedd hi gyda Gwenlyn
- mi wnai o gyfaddawdu efo rhai pethau. Stwff bara menyn "GweithioÂ’n ysbeidiol oedd o ac weithiau mi fyddaiÂ’n cael trafferth efo ambell bennod. Y wyrth oedd iddo wneud cymaint ag yntauÂ’n cynhyrchu cymaint o stwff "bara menyn" iÂ’r teledu." "Stwff "bara menyn" da iawn, fel Fo a Fe, Tresarn a Pobol y Cwm. "Roedd oÂ’n berson efo llawer iawn o syniadau - roedd gynno fo ffrindiau tua Chaernarfon, fel Gwilym Pritchard, oedd yn arbrofi efo cynhyrchiadau cyfoes iawn - "way-out" a dweud y gwir. "Doedd llawer oÂ’r syniadau yma ddim yn gweld golau dydd - gweld y gwaith gorffenedig oeddan ni." |
|
© MMI |
|
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |