ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Gwr cadarn gwladgarol

Atgofion cyfaill: Gwilym Owen yn cofio cwmnïwr, cymeriad a chyfaill

Cwmnïwr, cymeriad, cyfaill. Dyna fel bydda i’n cofio Gwenlyn. A thros flynyddoedd o adnabyddiaeth ohono fe welais i’r tair agwedd yna ar eu gorau.

Fe dreuliais i oriau lawer yn seiadu efo fo a chriw o "eneidiau hoff cytûn". Ac fe fu’r gwmnïaeth yma yn un o bleserau mawr bywyd. A Gwenlyn yn fwy aml na pheidio fyddai’r brenin yn y cwmni.

Storïwr heb ei ail

Roedd ganddo ddawn dweud straeon na welais ei thebyg. Fe deimlais i fwy nag unwaith y gallai fod wedi bod yn gystal actor ag oedd o ddramodydd.

Sawl gwaith, clywais i o yn deud stori amdano yn cael ei holi am ddigwyddiad ar y maes chwarae yn Ysgol Dyffryn Ogwen pan oedd oÂ’n athro yno. Y Prifathro oedd yn gwneud yr holi a Gwenlyn yn cael trafferth i esbonio rhai arwyddion a wnaed gan rai oÂ’r plant efoÂ’u dwylo. Pethau fel codi dau fys a rowlio bys ar ochr penglog.

Roedd hiÂ’n glamp o stori ac y tynnu pawb i chwerthin. Hyd yn oed y rheiny fel fi oedd wedi ei chlywed lawer gwaith oÂ’r blaen.

Dawn dweud

A beth am y saga arall honno am ei brofiad yn cael y "cyfweliad blynyddol" enwog efo un o Reolwyr ecsentrig y ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru?

Erbyn diwedd y cyfweliad hwnnw ’doedd Gwenlyn ddim yn sicr pa un ai fo ei hun ai’r dyn tu ôl i’r ddesg oedd y ‘Controlar’ go iawn.

Ac eto’r stôr ddihysbydd yna o straeon gwreiddiol personol oedd yn ei wneud o’n gystal cwmnïwr - â’r dawn i’w dweud nhw wrth gwrs.

Nid rhyw lobstar gwirion

Roedd oÂ’n gymeriad hefyd.
Nid rhyw lobstar gwirion o gymeriad chwaith, ond dyn efo gwaelod iddo. Roedd ganddo safbwynt. Ac nid ar chwarae bach y gellid ei berswadio i blygu.

Fe welais i enghreifftiau o hynny ar amrywiol achlysuron gydaÂ’i Gymreictod aÂ’i genedlaetholdeb yn bethau oedd yn gwbl sanctaidd yn ei olwg. A gwae i unrhyw un ohonom ddweud gair i gyfeiriad arall.

Mi fyddwn i weithiau yn mynd atiÂ’n fwriadol i ddweud rhywbeth carlamus y gwyddwn na fyddai yn ei blesio. Fyddwn i ddim yn gallu parhauÂ’n hir i dynnu ei goes. Fe gawn wybod fy mod wedi deud digon ac mai gwell oedd tewi.

Pan ddiflannodd y Ddraig

Weithiau fe âi yntau yn rhy bell. Mewn gwyl ffilmiau Celtaidd yn Donegal yr oeddan ni pan ddiflannodd baner y Ddraig Goch dros nos a gadael baneri eraill.

Roedd Gwenlyn yn benwan, ac er bod rhesymau gwleidyddol cadarn dros y digwyddiad oherwydd trafferthion Gogledd Iwerddon, eto fe ddaliodd ati i greu dadl. Roedd Cymru fach wedi cael ei sarhau a rhaid oedd cywiro pethau. A wir ichi rwyÂ’n credu iddo gael ei faen iÂ’r wal. Oedd, roedd William Gwenlyn Parry yn gymeriad cadarn iawn iawn.

Triw a charedig

Ond fel cyfaill triw a charedig y bydda i yn ei gofio fwyaf. Nid cyfaill tywydd braf yn unig oedd o. Rwy’n cofio unwaith bod yn ceisio am swydd efo fo. Roedd pedwar ohonom ar y rhestr fer. Rywsut, y fi gafodd y ‘job’ a phwy oedd y cynta i i godi ac ysgwyd llaw - wel Parry wrth gwrs. "Pob lwc iti rhen foi," medda fo. "Os galla i dy helpu di ryw dro dim ond gofyn cofia!"

Un hawdd ei frifo

Ac fe fu yna benodau yn hanes llawer iawn o rai eraill dros y blynyddoedd pan fu Gwenlyn yn gyfaill gwerth ei gael mewn cyfyngder.

Un felna oedd o – ac er bod ganddo ddiddordeb ysol ymhob stori a chlec oedd yn ffurfafen Cymru – eto i gyd, chlywais i ‘rioed mohono yn lledu gwybodaeth faleisus am neb.

A deud y gwir, chlywais i fawr o neb yn deud dim cas amdano yntau, A diolch am hynny, oherwydd roedd yna agwedd arall i Gwenlyn Parry – roedd o’n greadur hawdd iawn ei frifo.

Ac yn ystod y seiadau a gefais i efo fo yn ystod ei fisoedd olaf fe soniodd am rai oÂ’r penodau a adawodd greithiau ar ei enaid clwyfus.

Ond fe gadwa i’r rheiny yng nghelloedd y cof a’i gofio fel cwmnïwr, cymeriad, cyfaill – a dramodydd wrth gwrs!

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy