MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
| ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page Cymru'r Byd Addysg |
||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
|
StretsioÂ’r lastig
‘Un arall o ddramâu od Gwenlyn Parry!’ Roeddwn i’n llafnas ifanc yng nghanol cwmni dethol yn gwrando ar y dyn penddu yma yn dweud straeon a dyma Elfyn Thomas yn troi ata i a deud, "Ti’n gwbod pwy di’r dyn yma, twyt? Brawd Margaret Parry oedd yn Form Six pan oeddat ti yn Form One." Do, fe aeth Margaret, Gwenlyn a minnau i’r un ysgol - dim ond fod Gwenlyn un mlynedd ar ddeg yn hynach na mi. Yr hyn a’m trawodd i amdano y noson honno oedd y carisma - nid yn gonfensiynol olygus ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr. Dyn yn hawlio sylw, yn medru dweud ei ddweud mor ddifyr. Cynnig Y Twr dros swpar Fe fu i’n llwybrau groesi ambell i waith yn ystod y pymtheng mlynedd oedd i ddilyn. Eisteddfod Wrecsam oedd hi, ar ganol sgwrs, dyma Gwenlyn yn gofyn yn reit ddi-daro, "Dowch am swpar efo fi." Felly y bu. John a minnau yn swpera efo Gwenlyn, a finnau am unwaith yn gwrando yn lle siarad! Yn sydyn dyma fo’n troi ata i a gofyn,
"Sut fasa ti’n licio bod yn ifanc, canol oed a hen?" Be fedrwn i neud wedyn ond codi o’m sedd a rhoi clamp o sws ar i foch o! Yr anrheg yn cyrraedd Ymhen rhyw ddeng mis mi ddaeth yr anrheg - a dyna beth oedd Y Twr. Teitl da, fel pob un o deitlau dramâu Gwenlyn. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yr oedd yn cymryd bron i flwyddyn i sgrifennu drama. Drama sy’n gerdd Oherwydd fy mod i yng Nghaerdydd ar y pryd a John ym Mangor yr oeddem ni wedi darllen y ddrama ar wahân ond yn unfryd unfarn fod hon yn mynd i fod yn sialens ac yn bleser. Cerdd ydi hi a rhythmau pendant i’r dweud - yn cynnwys y rhegfeydd! Ac mae rhywun mwy cymwys na mi wedi dweud hynny mewn print, yn Rhagair Saunders Lewis i'r ddrama. Noson gyntaf Y Twr Anghofia i byth y noson gyntaf yn Theatr Newydd Caerdydd. Y lle’n orlawn. Dros fil o bobol yn disgwyl am ddrama newydd gan brif ddramodydd. Bu’r mis o ymarfer dan law gadarn y cyfarwyddwr, David Lyn, yn bleser pur a dyma ni rwan yn barod i droedio’r llwyfan. Yn yr ystafell wisgo yr oeddwn i’n
crynu fel deilan a nannedd i’n clecian! "Paid â phoeni," medda fo. "Mi fyddai yn y gynulleidfa a mi godai ar fy nhraed a gweiddi’r llinall ac mi fydd pawb yn meddwl mai un o ddramâu od Gwenlyn Parry ydi hon eto!" Dyma fo’n agor ei freichiau a’u cau amdanai a finna’n chwerthin. Gwên a dagrau mewn brawddeg Anghofiai byth, byth, y noson honno. A defnyddio dywediad o’n hardal ni, "gwybod faint i stretsio’r lastig". Dim ond ar lwyfan y gall rhywun gael profiad fel’na. Dros fil o bobol, fel un pryfyn ar wal, yn sbecian ar fywyd preifat dau berson. Y cicio, y brathu, y crio a’r caru. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach perfformio’r un ddrama eto, dan law Graham Laker. Y tro yma heb egwyl na cholur. Am brofiad! Am ddrama! Diolch fyth i Gwenlyn. |
|
© MMI |
|
About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |