

DringoÂ’r Twr - Bywyd
Gwenlyn Parry
|








|
Ìý |
- Ganwyd yn 1932 yn Neiniolen,
neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galwÂ’r pentref.
Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd
ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydroÂ’n barhaus yn erbyn tlodi. Mae nifer o feirniaid llenyddol yn
gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddramâu.
- Yn 1939 aeth ei dad i ymladd
yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgoÂ’r
trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dramâu Gwenlyn yn rhai cryfion.
- Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi
lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.
- Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref
oÂ’r rhyfel.
- Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn â’r
RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno â rhyfel yn dilyn holl hanesion
erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF.
Dywedodd iÂ’r cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y Twr a Sal gan iddo weld
sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.
- Wedi iddo ddychwelyd adref oÂ’r RAF
aeth iÂ’r Coleg Normal ym Mangor iÂ’w hyfforddiÂ’n athro. Yno ymddiddorodd yn
y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.
- TraÂ’r oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd
Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol.
Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddramâu sy’n peri i feirniaid weld ystyr grefyddol
iddyn nhw.
- Yn athro mathemateg yn Llundain
daeth yn fwy cyfarwydd â byd y theatr a threuliodd lawer o’i amser hamdden yn y West End.
Dechreuodd hefyd ymhel â Chwmni Drama’r
Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad â rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones.
Hefyd, buÂ’n arwain nifer o nosweithiau llawen yma.
- Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain
i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yma buÂ’n dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng
y Gymraeg.
- TraÂ’n byw yng Nghaernarfon daeth
i adnabod Huw Lloyd Edwards a fuÂ’n ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef aÂ’i perswadiodd i anfon ei
ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn
1961. Daeth yn gyd-fuddugol.
- Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd
Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd
iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
- Yn y cyfamser buÂ’n actio a chynhyrchu
yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones
- Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol
yn ysgol Dyffryn Ogwen lleÂ’r oedd erbyn hyn yn athro.
- Yn 1966 ymunodd â’r ÃÛÑ¿´«Ã½
yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma
gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm aÂ’r ffilm Saesneg, Grand Slam.
- Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys
pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ngwyl Ddrama
Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.
- BuÂ’n briod ddwywaith, yn gyntaf
gyda Joy o Bontyberem ac wedyn gydag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.
- Bu farw ar Dachwedd 5 1991,
ac feÂ’i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
|
|