Hanes trefi a phentrefi gogledd Ceredigion (parhad)
top
Taith hanesyddol o amgylch Ceredigion yng nghwmni Eirionedd Baskerville.
Ardal fynyddig y fro
Daw tri phentref at ei gilydd, Llangwyryfon, Llanrhystud a Blaenpennal, ar ynys fechan yng nghanol Llyn Eiddwen. Mae afon Wyre yn rhedeg o Fynydd Bach drwy Ledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud, gyda ffermydd o bobtu'r afon. Yn rhan arall y plwyf, uwchben hen Glawdd y Mynydd, mae clwstwr o dyddynnod bach Trefenter, olion tai un-nos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan sgwatwyr crwydrol. Mae sôn yma, hefyd, am garneddi a Ffynnon Ddrewi iachusol ar Fynydd Bach.
Ardal fynyddig y plwyf yw Trefenter a Mynydd Bach. Yn 1819 prynodd Sais o'r enw Augustus Brackenbury stad yno a dechrau cau'r tir comin a chodi tai, gan beri i'r trigolion ofni y byddent yn colli'r hawl i bori ar y comin. Dyma ddechrau Rhyfel y Sais Bach fel y'i gelwir, gwrthdaro a barodd am ddeng mlynedd. Adeiladodd dÅ· iddo ei hun ond fe'i llosgwyd i'r llawr.
Adeiladodd dŷ arall mwy diogel, Castell Talwrn, a chyflogi dynion i'w warchod, ond aeth hwnnw eto ar dân yn 1826. Ym 1828 adeiladodd drydydd tŷ a'i alw'n Cofadail Heddwch. Gadawyd ef yn llonydd wedyn, ond ymhen dwy flynedd fe gododd ei bac ac aeth o'r fro, ar ôl gwerthu ei dir i rai o'r trigolion lleol. Mae ôl Castell Talwrn gyda'i dŵr a'i ffos yn Nhrefenter o hyd; mae pobl yn byw yng Nghofadail Heddwch, a Chofadail yw enw'r ysgol leol.
Mae ardal Mynydd Bach yn enwog hefyd am bedwar bardd a fagwyd yno - T. Hughes Jones, Prosser Rhys, B. T. Hopkins a J. M. Edwards. Dadorchuddwyd cofeb iddynt ar ben y mynydd yn 1992 gan Mrs B. T. Hopkins.
Dychwelwn yn awr i Lanilar ac er bod pont sigl o gyffiniau hen orsaf Llanilar i'r ochr draw ger Pyllau Isaf, er mwyn cyrraedd pentref Y Gors rhaid teithio'r holl ffordd i bont Trawsgoed ac i lawr trwy bentreflan Abermagwr.
Mae'r gof yn dal i weithio yn efail Abermagwr, efail a adeiladwyd gan un o deulu'r Plas, ond mae'r hen felin goed wedi peidio ers blynyddoedd.
Adroddiad Dug BeaufortMae'r ffordd fawr yn mynd heibio i dŷ o'r enw Ffynnon Drindod a ffermdy Llanddwy. Roedd y llecyn yn gyrchfan i bererinion yn y canol oesoedd, oherwydd dŵr iachusol Ffynnon Drindod, y mae sôn amdani mor gynnar â 1684 pan ymwelodd Dug Beaufort â'r ardal.
Mae adroddiad yn y Welsh Gazette ym 1924 yn adrodd sut y byddai cryn rialtwch yn y ffair hon, gyda'r trigolion yn meddwi mewn tafarn gyfagos. Yn ôl yr hanes, roedd un o etifeddion Y Trawsgoed mor feddw un tro fe dorrodd bun o wallt un o'r merched gyda'i gleddyf, ac o ganlyniad rhoddwyd taw ar y ffair a'r dafarn.
Mewn tÅ· o'r enw Brynawel yn Y Gors, bu'r nofelydd Caradog Evans a'i wraig yn byw am gyfnod, ac er nad oedd yn wreiddiol o'r ardal, gorchmynnodd mai ym mynwent Horeb Y Gors yr oedd i gael ei gladdu.
Mae lôn gul gyferbyn â Thafarn y Gors sy'n arwain at bentref hynafol Llanfihangel y Creuddyn, neu Lanfihangel Gelynrhod, i roi'r enw gwreiddiol. Dywed Brut y Tywysogion, 'Yn y flwyddyn 1254 y bu farw Gwenllian merch Maelgwn Ieuanc yn Llanfihangel Gelynrhod a chladdwyd hi ym Mynachlog Ystrad Fflur. Enw arall arni yw Llanfihangel Gelli Moch.
Canolbwynt y pentref yw'r eglwys, sy'n perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg. Yr adeg honno Llanfihangel oedd canolfan cwmwd Creuddyn, lle roedd ffordd Rufeinig o'r De i'r Gogledd yn dod o'r gaer yn y Trawsgoed, yn dringo trwy goed Tanrallt ac i lawr Rhiw Harri, cyn croesi afon fechan Ceunant a'r dyffryn a dringo rhiw Sarnau cyn disgyn yn y pen draw i Riwarthen.
Gwelodd William Lewis Evans gof Llanfihangel, fod angen aradr llai o ran maint ar ffermwyr yr ardal, aradr a fyddai'n haws i'w thrin ar y llechweddau. Aeth ati i gynllunio a ffrwyth ei lafur yw 'aradr fai' neu 'aradr' Llan'i'ngel'. Mae enghraifft o'r aradr hon yn Amgueddfa Sain Ffagan.
Y tu allan i'r pentref safai plasdy bach Abertrinant, cartref teulu Lloyd, ond bellach nid oes dim ohono ar ôl ond yr enw sydd ar ffermdy cyfagos. Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae pentref bychan Cnwch Coch, casgliad o dai pridd sgwatwyr yn wreiddiol, gyda chapel y Wesleaid, Carmel, ar ben y bryn a chapel y Methodistiad Calfinaidd yn Rhydyfagwyr ar waelod y rhiw.
Cymerwn y ffordd o Lanfihangel y Creuddyn trwy Gwm Magwr at Fwlch Crwys a dyma ni unwaith eto yng nghwm afon Rheidol.
Y tro hwn cymerwn y ffordd i Ddyffryn Castell sy'n troi i'r chwith o Hafod Arms. Tua 1810 gwnaeth Thomas Johnes, sgweier yr Hafod, ffordd newydd o'r Hafod Arms i fyny hyd Yr Arch ac i ymuno â'r hen ffordd dyrpeg sy'n arwain i Gwmystwyth. Ef hefyd fu'n gyfrifol am drefnu codi Yr Arch wedi ei chodi i Jiwbili Sior III.
I lawr yr allt i Gwmystwyth. Ar y dde mae Eglwys yr Hafod, neu Eglwys Newydd. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf gan Morgan Herbert yn 1620, a'r un bresennol gan Thomas Johnes. Daeth hwnnw i'r plas yn 1783; roedd yn ddyn a chanddo amryfal ddiddordebau - gŵr bonheddig diwylliedig ei ddydd - roedd yn Aelod Seneddol, yn gyrnol yn y milisia, roedd yn ymhél ychydig â gwyddoniaeth, yn noddi celfyddyd - bu'n cyfieithu croniclau Ffrangeg Froissart i'r Saesneg a chodi gwasg yn Hafod er mwyn argraffu'r cyfieithiad ac adroddiadau dwyieithog Y Gymdeithas er cefnogi Hwsmoniaeth a Diwydrwydd yn Sir Aberteifi.
Roedd ganddo lyfrgell werthfawr a chyfrolau hen a phrin ynddi - bu Iolo Morgannwg yma droeon yn copïo rhai o'r llawysgrifau prin. Fe wnaeth waith mawr fel arloeswr amaethyddol. Mynnodd drin y fferm yn ôl y syniadau diweddaraf gan brynu llawer o offer newydd. I raddau gellid honni bod y Weinyddiaeth Amaeth yn sicrhau dilyniant i waith amaethyddol Johnes yng Nghanolfan Arbrofi ADAS ym Mhwllpeiran gerllaw.
Plannodd Thomas Johnes rai miloedd o goed ar y tir na ellid ei drin i gynhyrchu cnydau. Llosgwyd ei blas yn 1807 ond fe'i hailadeiladwyd. Ond lle trist oedd Yr Hafod i Thomas Johnes; collodd ei fab yn ifanc a bu farw ei ferch, Mariamne, yn 27 mlwydd oed. Mae cerflun o Mariamne a'i rhieni galarus yn yr Eglwys, ond difrodwyd hwnnw pan aeth yr eglwys ar dân yn 1932. Does dim ar ôl o'r plas; chwythwyd i fyny weddillion y plasdy yn 1958.
Roedd gwaith mwyn enfawr ar lechweddau Cwmystwyth ac, yn ôl un hen fwynwr fu'n gweithio yno, roedd fel mynd i fewn i ogof Aladdin: roedd y mwynau yn y cerrig yn pefrio mor lliwgar yn y tywyllwch. Mae'r tai oedd yn lletya'r gweithwyr yn prysur ddiflannu, ond erys y tomenni sbwriel yn atgof o'r cyfoeth a'r prysurdeb a fu.
Am gyfnod maith, amaethyddiaeth a mwyngloddio oedd prif ddiwydiant yr ardaloedd. Yna daeth y Comisiwn Coedwigaeth i blannu coed.
Erbyn heddiw daeth newid arall a phwyslais ar godi melinau gwynt i gynhyrchu trydan heb ddim perygl i'r amgylchedd. Mae'r coedwigoedd a blannwyd dros hanner can mlynedd yn ôl yn cynnig cyfleusterau parod i ddatblygu llwybrau ar gyfer hamdden a mwynhad, tra bod y llynnoedd, y gronfa ddŵr, afonydd a'r nentydd yn cynnig cyfleoedd anghymharol i bysgotwyr. Mae'r ardal yn fecca i'r sawl sy'n gwylio adar, yn enwedig y cudyll coch.
Dyma ni wedi cwmpasu bro hynod a hanesyddol. Dewch i'w gweld - mae ganddi gymaint i'w gynnig.
gan Eirionedd Baskerville
Mwy
Hanes Cymru

Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.