Hanes Abergwaun a'r Fro-parhad
top
Pwysigrwydd yr harbwr, hanesion ymwelwyr hanesyddol nodedig i'r ardal a dylanwad y Normaniaid.
Harbwr Abergwaun

Erbyn heddiw yn Wdig mae'r porthladd ac oddi yno y mae'r llongau'n teithio yn ôl ac ymlaen i borthladd Rosslare yn Iwerddon. Ond er mai yn Wdig y mae'r porthladd, Harbwr Abergwaun yw ei enw swyddogol. Bu'n rhaid ffrwydro'r creigiau i greu'r harbwr newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Fel heddiw, roedd Abergwaun yn borthladd pwysig ar ddechrau'r 20g. Y llong fawr gyntaf i lanio yno oedd y Mauretania. Rhaid cofio fodd bynnag fod y Lusitania yn galw yr un mor amal â'r Mauretania, ac felly yn haeddu'r un clod. 'Does dim dwy waith fod llongau Cunard wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad yr harbwr a'r adnoddau yn Abergwaun. Hon oedd y cwmni llongau gyda'r statws uchaf ym Mhrydain Fawr ar y pryd.
Cofiwn hefyd bod pentref Porthgain yn bwysig yn forwrol yn y 20g cynnar gyda'i harbwr prysur ei hunan. Mae olion yr oes hynny yn dal i'w gweld yn y pentref ac roedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn iddi hefyd. Heddiw, mae'r pysgotwyr yn dal i'w gweld yn gweithio yn yr harbwr ac mae'n ardal sy'n denu twristiaid oherwydd ei lleoliad ar lwybr arfordirol ysblennydd Sir Benfro.
Seryddwyr Hynafol

Gerllaw Wdig mae pentref Llanwnda. Mae mwy o olion Celtaidd yma nag mewn unrhyw blwyf arall yng Nghymru. Mae eglwys plwyf Llanwnda yn dyddio yn ôl tu hwnt i'r wythfed ganrif. Bu Gerallt Gymro yn offeiriad yn yr eglwys hon ac yma hefyd y derbyniodd Asser, cyfarwyddwr Alfred Fawr ei hyfforddiant cynnar yn y ffydd Gristnogol.
Yn 1881 dechreuwyd adnewyddu'r eglwys ac wrth wneud hyn darganfuwyd nifer o gerrig oedd wedi eu naddu. Gosodwyd y cerrig hyn yn rhan o furiau allanol yr eglwys. Mae'n debyg mai gwaith seiri maen oedd yn gweithio o dan nawdd y mynachod yw'r cerfiadau hyn. Credir eu bod yn dyddio o'r cyfnod rhwng y seithfed a'r nawfed ganrif. Diddymwyd y grefft Gristnogol hon gan y Normaniaid wedi'r goncwest.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Gwyndaf, brodor o Lydaw a gafodd ei benodi yn bennaeth Coleg Dubricus yng Nghaerleon. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn sylfaenydd eglwys Llanwnda, Sir Gaernarfon.
Mae cerrig diddorol i'w gweld hefyd ym Mharc y Meirw ger Dinas. Rhes o gerrig anferth sydd erbyn heddiw'n rhan o glawdd yw Parc y Meirw. Mae'r rhes hon o gerrig yno ers dros 5000 o flynyddoedd. Mae archeolegwyr wedi bod yn cloddio'r safle hwn ac maen nhw wedi darganfod offer seryddol hynafol sy'n dal i allu proffwydo diffyg ar yr haul neu'r lleuad. Mae'r cerrig yn wynebu Mynydd Leinster yn Iwerddon sy'n rhan o fryniau Wicklow. Cred llawer bod cromlechi enwog Côr y Cewri yn Lloegr wedi cael eu cludo o Sir Benfro yn wreiddiol ond mae'r archaeolegwyr yn dal i drafod sut yn union cyflawnwyd y fath gamp!
Cwm Gwaun ac Oes yr Iâ

Wrth deithio i mewn tua'r tir wedyn fe ddeuwn i Gwm Gwaun. Lluniwyd y cwm yn niwedd Oes yr Iâ ac mae'n un o'r cymoedd ffurf 'v' pwysicaf ym Mhrydain. Glannau afon Gwaun yw un o'r ychydig leoedd ar ôl yng Nghymru sy'n gynefin i'r dyfrgi.
Pentref gwledig yw Cwm Gwaun lle mae bywyd yn gwbl hamddenol. Mae'r dafarn leol sef y Duffryn Arms yn enghraifft o hen dy tafarn lle mae'r cwrw'n cael ei fragu yng nghefn y dafarn ac yn cael ei weini wedyn mewn jwg drwy dwll yn y wal.
I'r dwyrain mae tref Trefdraeth a saif yng nghesail Carn Igli. Datblygodd y dref fechan hon o amgylch y castell.
Castell Normanaidd yw hwn ond mae tystiolaeth o aneddiadau cynharach yn yr ardal. Codwyd y castell gan William de Turribus, a briododd Angharad merch Rhys ap Gruffydd. Yn 1859 cafodd ei atgyweirio ac adeiladwyd rhan arall a fyddai'n gartref i'r teulu, dyma'r rhan sydd i'w weld heddiw.
Y castell hwn oedd cartref perchennog barwniaeth Cemais, y diriogaeth a ymestynnai o Aberteifi i Abergwaun ac a oedd yn cynnwys mynyddoedd y Preseli. Arglwyddes Cemais sy'n berchen y castell heddiw ac mae'n cael ei osod ar denantiaeth.
Cromlechi a Thraethau

Yng nghanol y dref, ger stâd o dai modern, mae cromlech hynafol a elwir yn Carreg Coetan.
Yn Nhrefdraeth hefyd mae dau draeth sef Traeth Mawr a Thraeth Bach. Mae'r traethau'n cael eu gwahanu gan afon Nyfer. Ystyrir Traeth Mawr yn un o draethau mwyaf atyniadol Sir Benfro.
Yn ddiddorol iawn mae cysylltiad rhwng enw'r papur bro lleol 'Llien Gwyn' a phentref Trefdraeth. Daw'r enw o'r ymadrodd 'i lanw'r llien gwyn' a oedd mewn cân a oedd yn cael ei chanu gan forwyr o Gymru ar y llongau hwylio rhyw gan mlynedd yn ôl.
Gerllaw Trefdraeth mae pentref Pen-caer. Gŵr a dreuliodd ei lencyndod yn yr ardal honno oedd y bardd Dewi Emrys. Fe lwyddodd ef i gipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith a'r Goron unwaith. Ymhlith ei weithiau enwocaf mae ei gân dafodiaith 'Pwllderi' a'i englyn 'Y Gorwel'. Mae cofeb i'r bardd ym Mhwllderi.
Tua'r de mae pentref Treletert. Cafodd y pentref ei enwi ar ôl Letard, un o'r Fflemingiaid a gafodd ei ladd ym 1137 mewn brwydr ag Anarawd ap Gruffydd. Gerllaw'r eglwys yn y pentref mae ffynnon Shan Shilin. Mae yna nifer o straeon sy'n ceisio egluro sut y derbyniodd y ffynnon hon ei henw.
Un stori yw ei bod wedi ei henwi ar ôl merch o'r enw Siân a gafodd ei darganfod wedi boddi yn nŵr y ffynnon gyda swllt yn ei phoced. Yn ôl stori arall arferid gwerthu dŵr iachusol y ffynnon am swllt y botel.
Un o draethau hyfrydaf Sir Benfro yw traeth 'Freshwater East'. Yma yn 2011 gwelwyd lleoliad 'Shell Cottage' yn ffilm enwog 'Harry Potter and the Deathly Hallows' sydd wedi denu heidiau o dwristiaid i'r fro.