ÃÛÑ¿´«Ã½

Neges gyntaf Marconi

top
Peiriant Marconi

Wyddoch chi bod y darllediad radio di-wifren gyntaf gan Marconi wedi cymryd lle yng Nghymru?

Mae'n rhyfedd i feddwl bod un o ddyfeiswyr mwya enwog hanes, sef Guglielmo Marconi, (25 April 1874- 20 July 1937), wedi cyflawni un o gampau technolegol mwyaf y byd fodern yn ardal Rhyd Ddu, ger Caernarfon!

Mae Dafydd Francis Jones yn gyn beiriannydd trydanol ac yn frwd iawn dros hanes y radio. Yn aelod o gymdeithas Cyfeillion Marconi, mae'n sôn yma am y darllediad cyntaf di-wifren o Ryd Ddu ger Caernarfon i Awstralia:

"Yn hogyn ifanc yn y 1930au, mi es i weld yr union orsaf ddarlledu yn Rhyd Ddu lle darlledwyd y neges gyntaf yn wreiddiol. Dw i'n cofio edrych o gwmpas yn geg-agored ar y mastiau enfawr a'r holl beirianwaith oedd yn gwbl angenrheidiol bryd hynny i ddarlledu signalau cyn i'r dechnoleg newydd newid popeth. Mi es i weithio fel periannydd a ffurfio yn ddiweddarach gymdeithas Cyfeillion Marconi i gofio am gamp fawr Marconi yn darlledu'n ddi-wifren am y tro cyntaf.

"Ym 1896, anfonwyd llythyr at Syr William Henry Prys o Bryn Helen, pennaeth y Swyddfa Bost yng Nghaernarfon, gan gwmni o'r enw Swinton. Roedd y llythyr yn tynnu sylw at beiriannydd ifanc ond dawnus o'r Eidal. Gwahoddodd Syr William Prys Marconi i ogledd Cymru a chyfrannu £600 at ei ymchwil i ddarlledu di-wifren - sef anfon negeseuon drwy'r awyr heb wifrau!

"Yn anffodus bu farw Syr William Prys ym 1913 a hynny cyn gweld ffrwyth ei fuddsoddiad. Er hynny, gosodwyd carreg goffa iddo ar fur y Swyddfa Bost yng Nghaernarfon ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig.

"Bu Marconi yn byw ar Ynys Môn rhwng 1900 ac 1918 ond nid dyma ei ymweliad cyntaf i Gymru. Yn 1897 llwyddodd i greu'r darllediad cyntaf dros y dwr wrth ddanfon neges o ynys Flat Holm ym Mro Morgannwg i Bwynt Lavernock.

Ond y foment fawr mewn hanes oedd pan wnaethpwyd y darllediad tramor cyntaf rhwng Rhyd Ddu a Warunga yn Awstralia. Neges mewn côd morse oedd y darllediad cyntaf ar Fedi'r 22, 1918, a hynny at Brif Weinidog Awstralia sef William Morris Hughes, o Landudno. Ei bwriad oedd i ofyn iddo anfon mwy o filwyr ANZAC drosodd i Ewrop. Mae sï hefyd bod Lloyd George a William Morris Hughes wedi anfon negeseuon cudd at ei gilydd yn Gymraeg!

"Roedd y darllediad cyntaf hwn yn dechnegol iawn yn ogystal â phell. Anfonwyd y neges morse i lawr llinell ffôn o Lundain at wraig yn Nhywyn, Margaret Jones. Defnyddiodd hi offer arbennig sef agoriad morse i anfon y neges i lawr y lein i Ryd Ddu. Yno yn Rhyd Ddu, gan ddefnyddio offer mawr, cymhleth a mastiau, y darlledwyd y sbarc o wybodaeth yr holl ffordd i Awstralia."

Roedd gwaith Marconi yn darlledu signalau yn arloesol ar y pryd ond buan y datblygwyd y dechnoleg newydd i gymryd ei le. Serch hynny, fe erys ei enw yn y pantheon o ddyfeiswyr mwyaf ei oes a rhannodd y Wobr Nobel mewn Ffiseg yn 1909 am ei gyfraniad i dechnoleg fodern. Erys ei ôl o hyd yng Ngogledd Cymru gyda sefydliadau fel Cyfeillion Marconi yn cadw ei stori'n fyw yn yr ardal.

(Cyhoeddwyd gyfraniad Dafydd Francis Jones yn wreiddiol yn 2004 ar safwe ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol).


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.