Mae ganddyn nhw wybodaeth am wahanol yrfâu a galwedigaethau; pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen a manylion cyfeiriadau a gwefannau perthnasol.
Fe gei di ddefnyddio'r Rhyngrwyd yno hefyd yn ogystal â gweld llawlyfrau Prifysgolion a Cholegau, CD Roms a phecynnau meddalwedd sy'n ymwneud a gyrfâu, llyfrau hunan-help, cyhoeddiadau defnyddiol eraill a bapurau newydd dyddiol i dy helpu i chwilio am swydd.
Fe fydd hysbysfwrdd swyddi yno hefyd sy'n hysbysebu swyddi gyda'r mwyafrif yn canolbwyntio ar y rhai sydd ar gyfer bobl ifanc rhwng 16 ac 19 mlwydd oed. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfweliadau gydag ynghynghorydd gwaith a hyfforddiant neu ymgynghorydd gyrfâu i ti gael cyfle i drafod dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
|