 |
 |
Mae gwahanol yrfâu yn gofyn am sgiliau a chymwysterau arbennig. Mae hi bob amser yn syniad da gwneud gwaith ymchwil i yrfa arbennig cyn gynted ag wyt ti'n meddwl amdani. Bydd hyn yn sicrhau dy fod ti'n gwybod ydy e'n ddewis realistig cyn penderfynu'n derfynol. Os wyt ti'n mynd i ddatblygu syniad arbennig, rhaid iti wybod yn glir pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen a gofyn ai ti ydy'r person cywir i wneud y swydd yn effeithiol. Wedyn, fe elli di fynd ati i adeiladu ar y gofynion drwy ddewis y pynciau addysgol priodol ac ennill profiad gwaith perthnasol.
Mi fydd yna lawer o adnoddau defnyddiol yn llyfgrell yrfâu yr ysgol a'r ganolfan yrfâu leol (e.e. llyfrau, fideos, CD-ROMs, ayb) i dy helpu gyda'r ymchwil a gwneud pethau'n fwy eglur.
|
 |
 |