ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
Dewi Thomas

Cwrs Adeiladu Sgil

Oed: 18

Coleg:
Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd a Port Talbot. Dwi'n astudio ar gyfer NVQ 1 Dosbarthu a Storio, a Sgiliau Allweddol Lefelau I a II. Fe wnes i ddechrau fy nghyfnod hyfforddi ym mis Mehefin 1999 gyda Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd a Port Talbot, ac ar leoliad gwaith gyda Somerfield ym Mhontardawe. Roeddwn i'n treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn gweithio ac un yn y coleg.

Pam:
Fe wnes i ddewis rhaglen Adeiladu Sgil oherwydd mae'n well gen i hyfforddiant ymarferol. Dwi hefyd yn hoff o'r syniad y bydd yna swydd i fi ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi. Dwi wedi dysgu llawer o sgiliau, fel cylchdroi stoc, sut i weithio'n ddiogel, sut i gyfathrebu gyda phobl ac rwy'n credu 'mod i wedi datblygu fel person. Mae wedi bod yn anodd ymdopi â rhai sefyllfaoedd, ond gyda chymorth fy nghynghorydd hyfforddi a fy mentor yn Somerfield, dwi wedi llwyddo i ymdopi. Bob mis, mae fy nghynghorydd hyfforddi yn ymweld â mi i adolygu fy nghynnydd, gan nodi meysydd lle mae'n bosibl i mi ymestyn fy hun ymhellach. Mae asesiadau ar gyfer fy NVQ yn cael eu trefnu pan dwi'n teimlo'n barod i gael fy asesu, ar y cyd â fy aseswraig, pan mae hi'n teimlo 'mod i'n barod i gael fy asesu!

Y peth gorau:
Pan dwi angen cefnogaeth, dwi ddim yn cael fy siomi. Y peth mwyaf cyffrous oedd pan wnaeth Somerfield gynnig swydd i mi, oherwydd roeddwn i ar raglen dwy flynedd ac fe ges i'r cynnig ar ôl 15 mis. Ond roedd hynny'n golygu fod yn rhaid i fi wneud penderfyniad - doeddwn i ddim wedi cwblhau fy NVQ na TG Lefel 2, ac roeddwn i wir eisiau gwneud hynny. Yn ffodus, fe drefnwyd 'mod i'n cael treulio diwrnod yr wythnos yn y coleg er mwyn i mi fedru sicrhau'r cymwysterau.

Y peth gwaethaf:
Codi yn y bore! Unwaith rydych chi yn y gwaith, dydy e ddim yn ddrwg i gyd - a dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau a chysylltiadau newydd.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Hyfforddiant mewn Gwaith
Ceiswyr Sgiliau



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý