ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
Huw Jones

Prentisiaeth Fodern

Oed: 17

Coleg neu Brifysgol:
Dwi'n astudio'n llawn-amser yng Ngholeg Menai, Bangor - Prentisiaeth Fodern Sylfaenol mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg. Fy nod yw gwneud gradd mewn Peirianneg.

Pam:
Roeddwn i wedi bwriadu gwneud Lefel A, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n mwynhau hynny gan fod gormod o arholiadau. Mae'r cwrs yn ddefnyddiol i gael swydd, ac mae'n cynnig profiad ymarferol i fi. Mae'r ffaith ein bod ni’n cael ein hasesu drwy'r tymor yn beth da, yn hytrach na chael un arholiad mawr ar y diwedd. Mae'n llawer gwell na Lefel A, achos mod i'n gweld ac yn gwneud gwaith ymarferol, a does dim rhaid i fi ysgrifennu cymaint. Ond dyw e ddim yn opsiwn hawdd, achos mae 'na lot o waith cefndir i'w wneud gartref.

Beth nesaf:
Ar hyn o bryd, dwi'n cael fy noddi gan Hyfforddiant Môn, y corff hyfforddi lleol, sy'n dod o hyd i gwmni lle byddai'n treulio dyddiau allan yn gweithio. Mi fyddai'n astudio tuag at NVQ Lefel 3 yno. Mi fydda' i hefyd yn cael diwrnod allan mewn coleg i astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Edexcel. Mi fyddai'n cael fy nhalu i weithio wythnos 4 diwrnod i'r cwmni, a byddaf yn derbyn £100 yr wythnos yn ychwanegol ar ben hynny.

Pwyntiau da:
Mi fyddai'n treulio diwrnod allan fel prentis beiriannydd, ac mi ddylai hynny fod yn dda, achos rydych chi'n gweithio ac yn dysgu ar yr un pryd. Mi fydd hefyd yn wych derbyn cyflog ac mae 'na gydbwysedd da rhwng gwaith theori a gwaith ymarferol.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Hyfforddiant mewn Gwaith
Ceiswyr Sgiliau



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý