ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
John Beaumont

Cymryd Blwyddyn Allan

Oed: 27

Coleg neu Brifysgol:
Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Fetropolitanaidd Manceinion. Ecoleg oedd fy ngradd gyntaf. Gradd Meistri mewn Bioleg Cadwraeth yw fy ngwaith ôl-raddedig i. Mi fyddwn i'n hoffi rhedeg cwrs hyfforddi i baratoi pobl ar gyfer gwaith cadwraeth dramor, a'u hanfon i wneud hynny - felly os ydych chi eisiau gweithio gyda lemyriaid ym Madagascar, crwbanod môr yng Ngwlad Groeg neu barotiaid ym Mrasil, y fi yw'r dyn i'w holi!

Pam cymryd blwyddyn allan:
Roedd fy swydd flaenorol yn y DU, ym maes datblygiad rhyngwladol. Wrth i 'nghytundeb i ddod i ben, mi wnes i ddod ar draws swydd dysgu Saesneg ym Mrasil. Roedd y cwrs hyfforddi yn Sbaen, felly roedd yn golygu mis ychwanegol a gwlad ychwanegol ar gyfer fy mlwyddyn allan. Mi wnes i bacio fy magiau a threulio mis yn Barcelona.

Sut:
Roedd yn hawdd iawn. Mi welais i'r swydd yn y swyddfa yrfaoedd ac mi wnes i e-bostio fy nghais. Ar ôl i mi gael fy nerbyn, mi wnaeth popeth weithio fel wats. Ychydig ddyddiau wedyn, mi wnes i gael fy nerbyn ar y cwrs Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Mi wnes i ddweud fy mod yn gadael fy fflat ym Manceinion gan ddychwelyd i Ogledd Cymru am fis. Wedyn, pacio fy magiau am Sbaen...

Y profiad:
Dwi'n dysgu Saesneg mewn ysgol Saesneg newydd yn ninas Cuiabá ym Mrasil. Mae Cuiabá yn dref ffyniannus, ac mae'r rhan fwyaf o bobl sydd eisiau dysgu Saesneg yn bobl broffesiynol ifanc. Rydym ni'n eu dysgu am awr, wedyn yn treulio cyfnod yn y bar y tu allan yn ymlacio, sy'n gyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau sgwrsio! Mae'r cyfnodau prysuraf rhwng 5pm a 10pm. Mae gweddill yr oriau'n rhydd.

Amser gwaethaf:
Dwi wedi gorfod gwneud ymdrech i hogi fy ymennydd yn ystod y dydd er mwyn peidio diflasu. Dwi hefyd yn rhannu llety gyda fy mhennaeth, felly dwi wedi gorfod bod yn broffesiynol drwy'r adeg.

Cyngor:
Treuliwch eich blwyddyn allan yn gwneud gwaith cadwraeth - gorau oll lle mae'r haul yn tywynnu. Gwnewch yn siwr y bydd yn brofiad gwerthfawr fydd yn hwb i'ch CV, nid tocyn o gwmpas y byd yn unig. Gwnewch yn siwr fod y gwaith papur yn gyflawn cyn i chi gychwyn, ac ewch â'ch hoff gasetiau gyda chi. Mi fyddech chi'n synnu faint o gysur yw cwmni cerddoriaeth gyfarwydd.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Addysg Uwch
Blwyddyn Allan



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý