ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ìý
Lydia Vitolo

Astudio mewn coleg

Oed: 20

Coleg neu Brifysgol:
Fe wnes i fy arholiadau TGAU yng Ngholeg Ystrad Mynach ac yna cymryd blwyddyn allan i wneud gwaith clerigol. Dwi nawr yn astudio Lefel A mewn Saesneg, Hanes a'r Gyfraith ac yn gweithio'n rhan-amser. Fy nod yw bod yn newyddiadurwraig, felly dwi'n gobeithio mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio newyddiaduraeth a'r cyfryngau.

Pam dewis coleg:
Roedd yr ysgol yn cyfyngu arna'i ac roedd tuedd i roi pawb mewn categori. Mae'r coleg yn wahanol - fe allwch chi astudio yn eich amser eich hun. Mae 'na fwy o ryddid ac rydych chi'n cael eich trin fel oedolyn. Mae'n braf cael gwisgo'ch dillad eich hun hefyd ac fe allwch chi alw'r athrawon wrth eu henwau cyntaf. Mae hefyd yn haws cael trafodaeth gan fod mwy o ryddid i chi fynegi barn.

Pam cymryd blwyddyn allan:
Doeddwn i ddim yn barod i fynd yn ôl i addysg lawn amser ar ôl fy arholiadau TGAU. Pe bawn i wedi mynd i'r coleg yn syth, fyddwn i ddim wedi gwneud cystal. Mae seibiant yn rhoi amser i chi ystyried beth rydych chi am ei wneud. Wrth gymryd seibiant, mae'n gwneud i chi werthfawrogi addysg wrth fynd yn ôl. Hefyd, ar ôl gweithio mewn swyddfa, fel y gwnes i yn ystod fy mlwyddyn allan, roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i byth eisiau gweithio mewn swyddfa eto!

Pam Lefel A:
Dwi'n credu mai Lefel A yw'r ffordd orau i fynd ymlaen i wneud gradd. Mae'n opsiwn gwell ac yn rhoi mwy o hygrededd i chi os ydych chi eisiau cael lle mewn prifysgol. Fe wnes i ddewis y cyrsiau Lefel A am mod i wastad wedi hoffi Saesneg ac roeddwn i'n meddwl y byddai'r ddau gwrs arall yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Bydd unrhyw bwnc y byddwch chi'n ei astudio yn ddefnyddiol.

Gwaith rhan-amser:
Dwi'n gweithio fel cynrychiolydd busnes, rhwng 6pm a 10pm o ddydd Llun i dydd Gwener. Dwi'n gofalu am gwsmeriaid busnes ac yn gwerthu cynnyrch dros y ffôn. Mae'n rhoi arian i mi fynd allan, er ei bod yn anodd cyfuno gwaith coleg a gwaith.

Cyngor:
Mae angen i chi fedru cymell eich hun, ond rydych chi'n dysgu o'ch camgymeriadau. Os nad yw'r grym ewyllys gennych chi, efallai y dylech chi aros yn yr ysgol. Mae'n dibynnu ar eich personoliaeth, ac a ydych chi angen rheolau ysgol i'ch harwain.

Ìý

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
³§Ãª°ù
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Addysg Bellach
Ble i astudio



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý