ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y FlwyddynÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y Flwyddyn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llion Iwan

Galw am newidiadau i Lyfr y Flwyddyn

Mae'r awdur a'r darlithydd, Llion Iwan, wedi galw am newidiadau i gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Mewn cyfweliad efo'r rhaglen Stiwdio ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru, dywedodd bod angen ail-strwythuro'r gystadleuaeth er mwyn cyflwyno pedwar neu pum categori.

"Byddai'n well petai 'na gategorïau ar gyfer genres gwahanol, er enghraifft, nofel gyntaf, llyfr plant, barddoniaeth ac yn y blaen," meddai Mr Iwan.

"Mae angen rhannu'r £10,000 o wobr sydd ar gael i'r enillydd. Byddai £5,000 i'r enillydd ac yna £1,000 i enillwyr y categorïau yn well.

"Mae £10,000 yn gythraul o lot o arian i fynd i un lle pan ddyla' ni feddwl am wasgaru fo ychydig bach yn decach."

Awgrymodd hefyd nad ydi gwobr ariannol yn angenrheidiol yn rhoi statws i gystadleuaeth.

"Mae rhoi cymaint o wobr yn taflu pres. Er bod Gwobr Daniel Owen [yn yr Eisteddfod Genedlaethol] yn cynnig £5,000, 'dwi'n meddwl bod 'na fwy o statws i'r Fedal Ryddiaith."

Roedd Mr Iwan hefyd yn feirniadol o'r system sydd yn caniatáu i awduron sydd yn derbyn grantiau ysgrifennu i gystadlu yng nghystadlaethau'r Eisteddfod.

"Mae'n iawn [i gystadlu] yn Llyfr y Flwyddyn, ond os y'ch chi'n cael grant i gyhoeddi, yna dydy cystadlu hefyd ddim yn deg.

"Mae cael grant yn rhyddhau amser i rywun 'sgwennu ac mae hynny'n rhoi mantais annheg iddyn nhw.

"Hefyd, unwaith 'da chi di cystadlu mewn Eisteddfod, ddyla' chi ddim cael cyfle i roi hwnnw i mewn yn y gystadleuaeth flwyddyn nesa.

"Unwaith 'da chi 'di cystadlu a 'di cael beirniadaeth, yna cyhoeddwch neu cadwch o ar y silff," ychwanegodd.

Mae Stiwdio yn cael ei ddarlledu ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru pob nos Iau am 1800 BST gydag ail ddarllediad o'r rhaglen am 1830 BST ar nos Sadwrn



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý