ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y FlwyddynÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y Flwyddyn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Kate Crockett

Kate Crockett a Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn

Kate Crockett yw cyflwynydd y gyfres newydd gelfyddydol Stiwdio ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru. Aeth i glywed Jon Gower yn holi awduron cyfrolau Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yng Ng?yl y Gelli ar ddydd Llun 28 Mai 2007. Dyma ei haroddiad arbennig hi ar gyfer ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru'r Byd.

Er mai tri llyfr sydd wedi cyrraedd rhestr fer swyddogol Llyfr y Flwyddyn 2007 - sef Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones, Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen, ac Un Bywyd o Blith Nifer gan T.Robin Chapman - cafodd y gynulleidfa yng Ng?yl y Gelli wybod gan un o'r beirniaid, John Rowlands, i ddau lyfr arall hefyd ddod yn agos at gyrraedd y tri uchaf - dwy nofel, sef llyfr Aled Jones Williams, Ychydig Is Na'r Angylion, ac Esgyrn Bach gan Tony Bianchi .

Felly ar ben y rhestr hir o ddeg, a'r rhestr fer o dri, dyma ni felly â rhestr ganol! Arwydd medd y beirniaid o anhawster y dasg o dorri'r deg yn ôl i dri.

gwrando Kate Crockett yn holi un o'r beirniaid, John Rowlands

Fel y nododd un o feirniaid y gystadleuaeth Saesneg, Caroline Hitt, tasg anodd iawn ydi gosod llyfrau rydych chi'n eu hoffi o'r neilltu. Y Rhestr fer Gymraeg: Llwyd Owen, Robin Chapman a Gwen Pritchard Jones

Ac i fi yn bersonol, roedd sioc fwyaf y noson i'w chanfod ar y rhestr fer Saesneg, gan nad oedd lle i gofiant ysbrydoledig Byron Rogers i R.S.Thomas, The Man Who Went into the West, ymhlith y tri uchaf.

Ond fel y dywedodd John Rowlands wrthym wrth recordio sgwrs ar ddiwedd y noson ar gyfer rhaglen gelfyddydau newydd Radio Cymru, Stiwdio, mater o chwaeth yw rhestr fel hon yn y pen draw, gan ychwanegu bod yna ddadlau go frwd wedi bod rhyngddo a'i gyd-feirniaid, Elinor Jones a Gwion Hallam, cyn iddyn nhw benderfynu ar y tri.

Yn ystod y seremoni gyhoeddi cawsom glywed gan y chwe awdur sydd yn awr yn cystadlu am y wobr o £10,000. Eleni am y tro cyntaf mae'r ddau awdur "aflwyddiannus" (gair annheg os bu un erioed) yn ennill £1000 yr un - ac efallai mai dyna sy'n gyfrifol am y ffaith fod y sgwrs yng Ng?yl y Gelli rhwng yr awduron â chadeirydd y drafodaeth, Jon Gower, wedi bod yn un hwyliog iawn. Fodd bynnag, go brin bod modd gwneud cyfiawnder â chwe awdur mewn sesiwn awr o hyd.

Un o bleserau mawr G?yl y Gelli yw'r teimlad o ddod i adnabod awdur - ac roedd ymateb brwd y gynulleidfa i Gwyn Thomas, wrth iddo gael ei holi gan ei ragflaenydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, yn gynharach y prynhawn hwnnw, yn enghraifft dda o hynny.

Byddwn i wedi hoffi clywed mwy gan bob un o'r chwe awdur ar y rhestr fer Cymraeg a Saesneg - a gellid dadlau ymhellach y byddai wedi bod yn braf cael clywed gan yr ugain a gyrhaeddodd y rhestr fer. Y Rhestr fer Saesneg: Christine Evans, Lloyd Jones a Jim Perrin

Ond y drafodaeth fwyaf difyr i'w chynnal heb os byddai sesiwn o holi'r beirniaid gyda'i gilydd, a chael cyfle i glywed rhai o'r dadleuon brwd hynny y bu'n rhaid eu cynnal cyn cyhoeddi'r rhestr fer.

Marathon o wrando felly - tybed erbyn hyn â'r gystadleuaeth wedi tyfu mewn bri ac o ran cyhoeddusrwydd, nad oes angen G?yl Llyfr y Flwyddyn er mwyn cynnal yr holl drafodaethau hynny?

Byddai diwrnod o drafod gyda sesiynau i'r cyhoedd leisio'u barn ar chwaeth y beirniaid yn sicr yn estyn y drafodaeth, ac fel y dywedodd Jon Gower wrth gloi'r noson yng Ng?yl y Gelli eleni, mae angen trafod llyfrau er mwyn anadlu bywyd newydd iddyn nhw.

Pwy felly sydd am fynd â'r £10,000 eleni? Dydy'r beirniaid hyd yn oed ddim yn gwybod eto, meddai John Rowlands, a'u tasg nhw nawr yw troi unwaith yn rhagor at y tri llyfr ar y rhestr fer am un darlleniad arall, cyn cyhoeddi'r enillydd mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Orffennaf 9fed.

Bydd cyfle hefyd i bob un ohonon ni bleidleisio wrth i Radio Cymru gynnal Gwobr y Darllenwyr - ac mae'n werth cofio mai llyfr gwahanol i'r enillydd swyddogol a enillodd bleidlais y gwrandawyr llynedd.

Ie, testun dadl yw gwobrwyo llyfrau yn aml iawn, a chawn glywed rhagor o'r dadleuon hynny yn ystod rhifyn cyntaf Stiwdio wythnos i nos Iau am 6pm ar Radio Cymru.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý