ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Gig y Cŵps, Aberystwyth
Adolygiad gig Fflur Dafydd, Alun Tan Lan a Mim Twm Llai gan Leusa Fflur.


Lle a phryd
Cŵps Aberystwyth, Nos Wener Hydref y 1af

Y bandiau:
Fflur Dafydd, Alun Tan Lan a Mim Twm Llai

Awyrgylch
Gan fod y Cŵps mor fach, mi oedd y lle yn orlawn, ond roedd pawb yn rhoi gwrandawiad da i'r bandiau, ac erbyn y diwedd roedd pawb ar eu traed ac ar ben y meinciau yn dawnsio! Yr unig gŵyn oedd ei bod hi'n anodd clywed yn cefn yr ystafell gan ei bod hi'n hir, a bod y ddau fand cynta' yn chwarae'n acwstig felly'n eitha' tawel.

Trac y noson
Erbyn diwedd y noson roedd pawb wedi mynd i ganu hefo Mim Twm Llai, felly roedd pob cân yn hollol wych. Ond yr un sy'n aros yn y co' ydi'r cover o Mr.Bobby gan Manu Chao - mi oedd pawb yn gweiddi canu, oedd o'n swpyrb!

Disgrifiwch y perfformiadau
Fflur Dafydd oedd y cynta' i berfformio. Hi oedd prif leisydd y band pop/ffync Y Panics nes iddyn nhw ddod i ben yn Eisteddfod Casnewydd yr haf diwethaf, ac mae'r gerddoriaeth mae hi yn ei chwarae ar ben ei hun yn gwbwl wahanol. Mi ddechreuodd hi gyda chân acwstig, a mi ddistewodd pawb gan bod y gân mor swynol. Mi fywiogodd y set wrth fynd ymlaen, a mi ymunodd sax, bongos a bass gyda Fflur a'i gitâr acwstig. 'Dw i'n siwr gyda lot o wrano bydd y band yn datblygu i fod yn dda iawn - gobeithio bod albym neu EP ar y ffordd!

Alun Tan Lan oedd wedyn, canwr sydd wedi llwyddo i gael llawer o sylw dros yr haf o ganlyniad i gigio di-ddiwedd a rhyddhau'r albym felodig Aderyn Papur.Mi oedd o yn canu ar ben ei hun hefo'i gitâr ac organ geg, a mi ganodd yr holl glasuron oddi-ar ei albym, gan grisialu ei set gyda'r gân arbennig, Aderyn Papur.

Mim Twm Llai oedd yn gorffen, a mi ddechreuodd ei set gyda sawl cân newydd. Yna mi ganodd o ganeuon oddi ar ei albym 'O'r Sbensh', a chael pawb i ganu a neidio fyny a lawr fel mêniacs. Uchafbwyntiau yn sicr oedd y caneuon poblogaidd 'Clwb y Tylluanod' a 'Tafarn Yn Nolrhedyn'. Mi ganodd sawl cân gan yr athrylith Meic Stevens, ac erbyn y diwedd, roedd y set wedi mynd yn un jam enfawr a phob cân yn llifo mewn i'w gilydd - perfformiad anhygoel!

Uchafbwynt y noson
Sawl uchafbwynt am resymau gwahanol! Mi roedd cân gynta' Fflur Dafydd yn sicr yn haeddu mensh. Perfformiad egnïol Alun hefyd yn sbot-on. Ond YR uchafbwynt siŵr o fod oedd pawb yn y dafarn yn canu caneuon Mim Twm dros bob man - mi oedd yr awyrgylch yn wych.

Y peth gwaethaf am y noson
Y ffaith bod y lleoliad braidd yn fach, mi oedd hi'n anodd symud o gwmpas a 'dw i'n siwr mod i wedi cicio sawl person diflas oedd yn mynnu isda ar lawr tra o'n i yn dawnsio fel pengwin ar E's.

Achlysur Roc a Rol
Doedd dim llawer o roc a rôl i'w weld !

Beth sy'n aros yn y cof
Popeth heblaw y darna 'dw i wedi anghofio

Talent gorau'r noson
Alun Tan Lan ymhob ffordd bosib !!

Marciau allan o ddeg
8.42

Un gair am y gig
wiwerllyd

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!

Cysylltiadau Perthnasol
http://users.aber.ac.uk/srl3/naws/naws.htm

Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý