ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Cerys Matthews...
Sesiwn Fawr '04 (Gwener)
Lowri Johnston


Lle a phryd
Dolgellau, Nos Wener 16 Gorffennaf 2004

Y bandiau
Gola' Ola', Anweledig, Kentucky AFC, Cerys Mathews

Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Yn agor penwythnos Sesiwn Fawr Dolgellau oedd Gola' Ola' - band ifanc o'r Gogledd. Caneuon catchy ac offerynwyr dawnus, mae yma botensial! Mae'r drum solo a chwaraewyd ar ddiwedd y set yn aros yn fy nghof - dechrau da i be oedd yn addo i fod yn sesiwn a hanner!

Erbyn i Anweledig ymddangos, roedd mwy o bobl wedi cyrraedd a pawb i weld yn mwynhau. Fel arfer, roedd Ceri a'r band yn llawn egni ac yn diddanu'r gynulleidfa (yn enwedig y Shrek Cymraeg ar y bongos!). Graffiti Cymraeg a Dwi'n Gwybod Sut ti'n Licio dy De yn ddau o fy ffefrynnau i am y noson - a Sosban Fach wrth gwrs! Roedd hi braidd yn rhyfedd gweld Anweledig yn gynnar yn y noson - gwrthgyferbyniad i'w set nhw i gloi nos Sadwrn llynedd yn y Sesiwn.

Kentucky AFC o Borthmadog oedd i ddilyn - set hir iawn oedd yn cynnwys llawer o'r ffefrynnau megis Unarddeg, eu fersiwn o gân y Gorky's - Iechyd Da, Bodlon ac Outlaw i orffen. Set egniol da iawn - a taflwyd nicyrs mewn i'r gynulleidfa hyd yn oed, fel anrheg bach! Edrych ymlaen at yr albwm a fydd allan cyn bo hir ar label Boobytrap.

Ac yna i brif atyniad y noson - Cerys Mathews. Un gair sydd i'w disgrifio - ffantastig. Roedd ei phresenoldeb wedi denu llawer o bobl na fyddai wedi dod fel arall i'r Sesiwn, ac erbyn iddi ymddangos roedd y lle yn orlawn. Yng nghanol y croeso cynnes iddi gan y gynulleidfa, cafwyd llu o ganeuon swynol, gan gynnwys Chardonnay ac Arglwydd Dyma Fi, dau gan o'i halbwm Cockahoop. Fel ffan o Catatonia, roeddwn i'n falch iawn iddi agor ei set gyda'r clasur 'Gyda Gwên', ac hefyd 'Johnny Come Lately' yn hwyrach. Roedd y gynulleidfa yn amlwg yn ei haddoli, a llygaid pawb yn syllu ar y llwyfan, ar goll yn melodi hyfryd ei chaneuon, er waetha'r glaw!

Sylwadau ychwanegol?
Â'r farn am y noson gynta' felly? Gyda dau o fandiau mawr y sîn roc Gymraeg ac un â llawer iawn o botensial - anodd peidio mwynhau. Ond gyda un o fawrion y sîn gerddoriaeth yn Genedlaethol yn bresennol, amhosib peidio! Gyda'r cwrw yn llifo - noson yn cynnwys llawer o ddawnsio, llawer o ganu, a llawer iawn o hwyl!


Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý