ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Bryn Fôn, Meinir...
Sesiwn Fawr 04 (Sadwrn)
Lowri Johnston


Lle a phryd
Nos Sadwrn, Dolgellau, 17 Gorffennaf 2004

Y bandiau
Maharishi, Celtish, Yr Electic Ceili Band, Mabon, Bob Delyn a'r Ebillion, Meinir Gwilym, Bryn Fôn

Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Ar ôl noson wych o gerddoriaeth cyfoes y Sîn Roc Gymraeg, roedd y dydd Sadwrn yn cynnig cerddoriaeth tipyn yn wahanol i'r noson gynt. Ac roedd mwy o amrywiaeth yn y gynulleidfa hefyd - o'r ifanc iawn i'r hen, a dyma beth sy'n gwneud y Sesiwn yn ddigwyddiad mor arbennig, mae yma groeso a rhywbeth i bawb.

Yn wahanol i llynedd, dwy lwyfan oedd ar y dydd Sadwrn (pedair y llynedd), a band cyntaf i diwrnod i mi oedd Mahirishi. Set iawn er yn eithaf di-egni, ond gan ei fod yn gynnar yn y dydd dim ond y ffyddloniaid â'r rhai oedd yn medru ymlusgo i ffwrdd o'u pebyll gwlyb oedd yn bresennol.

I ddilyn oedd Celtish, band o ar draws Prydain a'r gwledydd Celtaidd. Roedd gan y prif leisydd lais swynol, ac roedd y gan olaf - Motherland - yn ffantastig, gyda rhyw dinc o gerddoriaeth Gwyddelig iddi. Yn wahanol i neithiwr, ymddangosodd yr haul i roi ei bendith ar y Sesiwn, a rhaid dweud bod ei phresenoldeb wedi gwneud tipyn o wahaniaeth i hwyliau'r gynulleidfa a'r bandiau.

Yr Electic Ceili Band oedd i ddilyn - rhyw fath o Supergroup Gwyddelig fel y cyflwynwyd nhw gan Dafydd Du. Roedd y band yma yn hollol wych - yn llawn egni ac yn cyfathrebu'n dda gyda'r gynulleidfa, gyda nifer yn dawnsio'n egniol! A dweud y gwir, dwi erioed wedi gweld rhywun yn dawnsio mor egniol gan chwarae'r ffidl mor wych yr un pryd a'r dyn yn y band yma! Yn bendant, dyma un o fanteision y Sesiwn Fawr, ei fod yn rhoi cyfle i bobl weld bandiau na fyddent fel arfer yn mynd i'w gweld.

Yn anffodus, fel rhywun sydd ddim wedi arfer â gwrando ar gerddoriaeth gwerin yn aml, roedd y bandiau oedd i ddilyn yn debyg iawn i'r ddau flaenorol. Er yn dda iawn - yn enwedig Mabon - roedd y diffyg amrywiaeth yn golygu bod pobl yn dechrau colli diddordeb.

Chwa o awyr iach oedd Bob Delyn a'r Ebillion felly. Set gwych, gan gynnwys sawl can o'u albwm diweddaraf - Doré - Pethau Bychain Dewi Sant yn ffefryn personol. Cyflwynwyd Trên Bach y Sgwarnogod gan Twm Morys fel "cân hollol newydd" - rhywbeth a ddrysodd llawer! Trueni nad oedd mwy yno i weld y band - roedd y perfformiad yn ffantastig, er gwaethaf rhai problemau sain nawr ac yn y man.

Erbyn i Meinir Gwilym ymddangos - gyda band mawr iawn yn gefn iddi - roedd y lle yn orlawn, a chwaraewyd set llawn o ganeuon a oedd yn ysgogi pawb i gyd-ganu. Fernhill oedd i ddilyn - ond roedd yn ymddangos bod gan y rhan fwyaf o'r gynulleidfa mwy o ddiddordeb yn y bar na'r band. Set ddiddorol, ond ddim yn ddigon i ddal sylw pawb.
Yn cloi'r penwythnos oedd Bryn Fôn - set o glasuron a pob aelod o'r gynulleidfa i'w gweld yn gwybod pob gair i bob cân. Roedd y set yn cynnwys Yr Ardd, Rebal Wicend, cwpwl o ganeuon o Sobin A'r Smaeliaid megis Byw mewn Bocsys, Ceidwad y Goleudy ac Un funud Fach i orffen - cyn ein anthem Genedlaethol.

Ar un ochr, dwi'n meddwl bod hyn wedi bod yn ddewis gwael o fand i gloi'r noson, achos bod cymaint o fandiau arall ifancach sydd angen y slot yma er mwyn ehangu eu cynulleidfa, ond eto dyma ffordd y trefnwyr o sicrhau cynulleidfa fawr. Dwi'n teimlo mai'r un hen fand sy'n cloi pob gŵyl, ac mae'n bwysig - os am feithrin bandiau newydd ifancach, a rhoi'r cyfle iddynt ehangu eu gorwelion - i gynnwys amrywiaeth, yn enwedig wrth ystyried cymaint o fandiau da newydd sydd ar y sîn ar hyn o bryd.

Sylwadau ychwanegol?
Ond, noson dda iawn ar y cyfan - a'r tywydd braf yn fendith! Llongyfarchiadau i'r trefnwyr am ŵyl mor lwyddiannus unwaith eto.


Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý