John Hardy yn 1966
Beth yw eich atgofion chi o 1966? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen.
John Hardy, Bangor
"Mae 1966 yn cael ei gofio am sawl rheswm ond am un digwyddiad yn anad dim - trychineb Aberfan. Ym 1966 y gwelais fy Mam yn crio am y tro cyntaf, roedd hi'n eistedd o flaen y teledu yn gwylio ing a phryder pentref oedd bron i ddau gan milltir i ffwrdd o'n aelwyd cynnes breintiedig ni. Wythnos yn ddiwedarach nes i basio'r un pentref ar fws wedi bod yn chwarae i dîm dan 11 ysgolion Bangor yng Nghwmbran ac roedd clywed distawrwydd plant wrth gofio plant yn gadael craith."
 |