 |
 |
 |
Dyma 1966 Y penawdau, y pethau, y bobl |
 |
 |
 |
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Roedd dadlau am gynlluniau i godi tref newydd o 70,000 o bobl rhwng Llanidloes a'r Drenewydd. Roedd sôn hefyd am gael rhwng wyth a deg argae newydd yn yr ardal
Bu raid i nifer o deuluoedd adael pentref Dolgarrog yn Nyffryn Conwy oherwydd ofn tirlithriad. Roedden nhw'n cofio am drychineb pan dorrodd yr argae yno yn 1925 gan ladd 16.
Roedd hi'n flwyddyn fawr i drafnidiaeth yng Nghymru, gydag agor Pont Hafren a ffordd osgoi Port Talbot, y draffordd drefol gyntaf yng ngwledydd Prydain.
Roedd gwrthwynebiad mawr i fwriad y Llywodraeth i dorri nifer heddluoedd Cymru o 12 i 4. Dyna a ddigwyddodd yn 1969, pan grëwyd heddluoedd De Cymru, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru a Gwent,
Dechreuodd ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru, gyda bom yn argae Clywedog yn 1966. Byddai'n parhau am dair blynedd arall, tan i'r arweinydd, milwr o'r enw John Jenkins, gael ei arestio.
Ym mis Mawrth, cafodd Llafur ei chanlyniad gorau erioed mewn Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, gan gipio 32 o'r 36 sedd. Roedd ganddi do newydd o aelodau Cymraeg - Wil Edwards (Meirionnydd), Ednyfed Hudson Davies (Conwy) ac Elystan Morgan (Ceredigion) a fu'n un o sêr Plaid Cymru. Trwy'r DU, roedd gan Lafur fwyafrif o 87, gyda Harold Wilson yn Brif Weinidog.
Cafwyd damwain ddifrifol ym Mhwll Penmaen ar afon Mawddach ym mis Gorffennaf pan drawodd cwch bleser yn erbyn pont. Boddwyd 15 a daeth yn glir wedyn fod gormod o bobl ar y cwch.
Ym mis Gorffennaf hefyd, enillodd Gwynfor Evans sedd seneddol gyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin. Roedd hynny yn sgîl marwolaeth Megan Lloyd George.
Sefydlwyd Plaid Ryddfrydol Cymru yn blaid ar wahân er bod ganddi gysylltiadau clos iawn o hyd gyda'r Blaid Ryddfrydol yn Llundain.
Daeth sylw'r byd ar Gymru ym mis Hydref pan laddwyd 116 o blant a 28 o oedolion yn Aberfan. Roedd tip glo wedi llithro i lawr ochr y bryn gan gladdu'r ysgol gynradd. Am ddyddiau, bu pobl yn cloddio - gyda'u dwylo hyd yn oed - er mwyn chwilio am y plant.
Y BYD
Daeth Indira Gandhi yn Brif Weinidog India - un o'r gwragedd cynta' erioed i ddod yn arweinydd gwlad. Roedd hi'n ferch i Nehru, prif weinidog cyntaf yr India.
Cafodd cofgolofn i Nelson ei ffrwydro ar Stryd O'Connel, Dulyn, adeg cofio hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.
Cyfarfod hanesyddol rhwng arweinwyr crefyddol - am y tro cyntaf ers 400 mlynedd, cyfarfu Archesgob Caergaint, arweinydd yr Eglwys Anglicanaidd, gyda'r Pab.
Ar Fai 6, cafodd Ian Brady a Myra Hindley garchar am oes am lofruddio a phoenydio tri phlentyn. Cymro, y Twrnai Cyffredinol, Elwyn Jones, oedd yn arwain yr erlyniad, ac Emlyn Hooson QC yn amddiffyn Brady. Sgrifennodd yr actor Emlyn Williams lyfr enwog am yr achos, Beyond Belief.
Crëwyd anhrefn yn y porthladdoedd gan Streic y Morwyr rhwng Mai 16 a Gorffennaf 1. Gwnaeth ddifrod i'r economi, a oedd eisoes yn fregus. Dyma streic genedlaethol gyntaf y morwyr ers 1911 - roedden nhw eisiau rhagor o gyflog a gostwng yr wythnos waith o 56 awr i 40.
Ym mis Awst, dechreuodd y Chwyldro Diwylliannol yn China - dull yr arweinydd Comiwnyddol, Mao Zedong o wneud yn siŵr fod y chwyldro Comiwnyddol yn parhau. Apeliodd at y werin yn erbyn ei swyddogion ei hun. Bu llawer o galedi, lladdwyd miloedd ac anfonwyd miliynau i weithio yn y caeau.
Llofruddiwyd Prif Weinidog De Affrica, Hendrik Verwoerd, y dyn a oedd yn cael ei alw yn 'bensaer apartheid'.
Arestiwyd Ronald Edwards un o ladron y Great Train Robbery, ond llwyddodd yr ysbïwr George Blake i ddianc o garchar Wormwood Scrubs. Roedd wedi cael dedfryd o 42 o flynyddoedd am roi gwybodaeth i wasanaeth cudd y Sofietiaid. Dringodd tros wal y carchar gyda rhaff, a dianc i'r Undeb Sofietaidd.
Ym mis Tachwedd, etholwyd y dyn du cyntaf i Senedd yr Unol Daleithiau ac yn ystod 1966 y ffurfiwyd mudiad protest milwriaethus y Black Panthers hefyd.
Ar ôl dadlau hir, cyhoeddodd Rhodesia ei hannibyniaeth, heb ganiatâd y Deyrnas Unedig. Byddai ei harweinydd gwyn, Ian Smith, yn ddraenen yn ystlys Llundain am flynyddoedd i ddod.
CERDDORIETH
Cyhoeddodd Dafydd Iawn ei record gyntaf, Wrth Feddwl am fy Nghymru. Roedd wedi dod yn enwog yn canu ar raglenni teledu Y Dydd.
Sefydlwyd grŵp newydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin - y Derwyddon. Roedd yn cynnwys y canwr gwerin adnabyddus, Dafydd Idris. Roedd triawd o Fangor ymhlith grwpiau mwya' poblogaidd y cyfnod - tad a merch a ffrind o'r enw Aled, Reg a Nia.
Cafodd y gantores Helen Wyn o Dalybont ger Bangor ei harwyddo gan label Saesneg. Roedd yn chwaer i Now Hogia Llandegai a chafodd rywfaint o lwyddiant yn ddiweddarach dan yr enw Tammy Jones.
Cafodd Tom Jones o Bontypridd un o'i lwyddiannau mwya' gyda Green Green Grass of ÃÛÑ¿´«Ã½ - hi oedd Rhif Un gwledydd Prydain trwy fis Rhagfyr ac i mewn i fis Ionawr, 1967.
Tra cafodd y Beatles eu pledu gyda sbwriel am honni eu bod mor boblogaidd â Iesu Grist ac yn gwneud eu taith olaf a'u gig byw olaf, roedd her iddyn nhw oddi wrth fand gwneud o America, The Monkees.
Dyma rifau 1 Siart y Senglau 1966:
Ionawr: Spencer Davis Group - Keep on Runnin (Ion)
Ionawr: Overlanders - Michelle
Chwefror: Nancy Sinatra - These Boots are Made for Walking
Mawrth: The Walker Brothers - The Sun Ain't Gonna Shine
Ebrill: Spencer Davis Group - Somebody Help Me
Ebrill: Dusty Springfield -You Don't Have to Say
Mai: Manfred Mann - Pretty Flamingo
Mai: Rolling Stones - Paint it Black
Mehefin: Frank Sinatra - Strangers in the Night
Mehefin: Beatles - Paperback Writer
Gorffennaf: Kinks - Sunny Afternoon
Gorffennaf: Georgie Fame - Get Away
Gorffennaf: Chris Farlowe - Out of Time
Awst: Troggs - With a Girl Like You
Awst: Beatles - YellowSubmarine/ Rigby
Medi: Small Faces - All or Nothing
Medi: Jim Reeves - Distant Drums
Hydref: Four Tops - Reach Out I'll Be There
Tachwedd: Beach Boys - Good Vibrations
Rhagfyr: Tom Jones - Green Green Grass
CELFYDDYDAU
Sefydlwyd y Ganolfan Lyfrau yn Aberystwyth i ddosbarthu llyfrau Cymraeg a daeth ymgyrch lyfrau flynyddol yr Urdd o dan adain y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Roedd catalog yn cael ei ddefnyddio i werthu o ddrws i ddrws.
Enillwyd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol gan Dic Jones. Ei awdl i'r Cynhaeaf oedd un o'r gorau erioed. Roedd yna seremoni fawr am y tro cyntaf i gyflwyno'r Fedal Ryddiaith - ond doedd neb yn deilwng.
Drama fawr y flwyddyn oedd Saer Doliau, drama hir gyntaf Gwenlyn Parry. Roedd yr ymateb yn gymysg, a rhai o'r hen do'n cael trafferth i ddeall y neges.
Daeth Llion Griffiths yn Olygydd Y Cymro - y prif bapur Cymraeg ar y pryd. Roedd yn cael ei gyhoeddi yng Nghroesoswallt.
Ymhlith llyfrau Cymraeg y flwyddyn, roedd:
Ugain Oed a'i Ganiadau, cyfrol gyntaf y bardd Gerallt Lloyd Owen,
Hyfryd Iawn, llyfr cyntaf Eirwyn Pontsian
Hanes Annibynwyr Cymru, gan R.Tudur Jones.
FFILMIAU
Born Free - am stori wir Joy Adamson a'i gŵr yn magu llewes o'r enw Elsa.
A Funny Thing Happened on the Way to the Forum - comedi wyllt, llawn merched prin eu dillad.
Georgy Girl - un o'r ffilmiau cyntaf am chwyldro rhywiol y 60au, gyda Lynn Redgrave a Charlotte Rampling.
A Man for All Seasons - addasiad o ddrama Robert Bolt am Thomas More, Canghellor Harri VIII.
Who's Afraid of Virginia Woolf - ffilm enwocaf y Cymro, Richard Burton, a'i wraig, Elizabeth Taylor, am noson hunllefus o ffraeo. Enillodd Taylor Oscar am hon.
TELEDU
Dechreuodd Disc a Dawn ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru, yn rhaglen gylchgrawn gydag elfen o recordiau pop. Endaf Emlyn oedd yn cyflwyno'r rheiny - y DJ Cymraeg swyddogol cyntaf erioed.
Un arall o raglenni poblogaidd teledu Cymraeg oedd Sion a Siân ar TWW - rhaglen gwis i barau priod ddangos eu bod yn adnabod ei gilydd.
Un o eilunod mawr y cyfnod oedd David McCallum (Ilya Kuryakin yn y gyfres antur ac ysbïo, Man from U.N.C.L.E.). I'r dynion, Diana Rigg oedd Emma Peel mewn cyfres o'r un math, The Avengers.
Eamonn Andrews oedd Personoliaeth Deledu'r flwyddyn, roedd y digrifwr bachgennaidd, Jimmy Clitheroe, a'r canwr siwmperog, Val Doonican, hefyd yn boblogaidd.
Yn America, dechreuodd y gyfres gwlt, Star Trek, a daeth y sioe gomedi, Dick Van Dyke Show i ben.
Rhaglenni eraill: Opportunity Knocks, Dr Kildare, Emergency Ward 10.
CHWARAEON
Bocsio - Cassius Clay yn curo Henry Cooper yn Llundain i gadw Pencampwriaeth Pwysau Trwm y Byd, er iddo gael ei daro i'r llawr
Lynn Davies, y neidiwr hir, yn ennill medal aur Gêmau'r Gymanwlad i fod y cyntaf erioed i ddal teitl Olympaidd, Ewropeaidd a'r Gymanwlad yr un pryd.
Billie Jean King yn ennill pencampwriaeth tennis Wimbledon am y tro cyntaf - byddai pum teitl senglau arall yn dilyn yno.
Lloegr yn ennill Cwpan Pêl-droed y Byd gan guro Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol yn Wembley o 4-2 ar ôl amser ychwanegol. Cyn y pencampwriaeth, cafodd y cwpan ei ddwyn ... cyn i gi o'r enw Pickles ddod o hyd iddo.
Francis Chichester yn dechrau hwylio'r byd - y cyntaf i wneud hynny ar ei ben ei hun.
GWYDDONIETH
Cafodd inswlin synthetig ei greu am y tro cyntaf - byddai hynny'n chwyldroi bywydau llawer o bobl oedd yn dioddef o glefyd siwgr.
Rhoddwyd calon artiffisial i ddyn yn America, ond ni fu byw'n hir.
Dechreuodd bad hofran groesi'r sianel - byddai'n parhau'n ddull teithio poblogaidd nes dyfodiad Twnnel y Sianel.
Cyflwynwyd y Barclaycard - cerdyn credyd cyntaf gwledydd Prydain
Roedd yr Undeb Sofietaidd yn gwneud yn dda yn y gofod - glaniodd Luna 9 ar y lleuad, Venera 3 oedd y roced gyntaf i lanio ar blaned arall (Gwener) a Luna 10 oedd y roced gyntaf i gylchdroi o amgylch y lleuad.
FFORDD O FYW
Heddlu Sir Ddinbych yn cael eu ceir heddlu trafnidiaeth cyntaf
Roedd pris tŷ 4 llofft ger Caernarfon yn £2,450
Fe fu helynt am fod cwmni pobi Rank Hovis McDougall yn codi pris torth o 1d - un hen geiniog.
Cafwyd proffwydoliaeth y byddai teliffon ymhob car o fewn 20 mlynedd.
Roedd llawer o sylw yn y papurau newydd i'r crês gwyliau diweddaraf - sgïo.
Norman Hartnell, couturier y Frenhines, yn ymosod ar ferched oedd yn dangos eu penglinau, gan ddweud "be sy'n bert am bengliniau?"
O sôn am hynny, gwelwyd minis yng nghyfarfod rasio Ascot am y tro cyntaf - y sgertiau nid y ceir
Priodas y flwyddyn oedd honno rhwng Jenny Ogwen ac Euryn Ogwen, y ddau ar y pryd yn sêr ifanc ar y teledu
Roedd yna lawer o helynt tros enwau llefydd - ymgyrch i droi Llanelly yn Llanelli a Chaernarvon yn Gaernarfon. Protestiodd merch ysgol yn erbyn rhoi enw Saesneg ar ei stryd yn Yr Wyddgrug.
Roedd arwydd o'r hyn oedd i ddod ym myd crefydd wrth i weinidog o'r enw Emrys Williams ddechrau gwasanaethu capeli'r Annibynwyr a'r Presbyteriaid yn ardal Carmel, Caernarfon.
MARWOLAETHAU
Elizabeth Watkin Jones, yr awdures llyfrau plant. Ei chreadigaeth enwocaf oedd Luned Bengoch.
W. Mitford Davies, y cartwnydd, a fu'n cyfrannu cartwnau a lluniau i gylchgronau'r Urdda am genedlaethau.
Megan Lloyd George, merch y cyn-brif weinidog David Lloyd George, ac AS Llafur Caerfyrddin ar y pryd.
Lenny Bruce, y digrifwr dadleuol Iddewig o'r Unol Daleithiau.
Walt Disney, creawdwr Mickey Mouse a chwmni cartwnau enwoca'r byd.
Randolph Turpin, y bocsiwr a gurodd Joe Louis. Roedd ganddo gysylltiadau clos â Chymru - yn Abergele yr oedd wedi ymarfer am yr ornest, fe fu'n cadw gwesty yn Llandudno am flynyddoedd ac roedd yn briod â merch o Dreffynnon.
Billy Smart, y dyn syrcas
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|