 |
 |
 |
Dyma 1967 Y penawdau, y pethau, y bobl |
 |
 |
 |
Clicwch ar bwnc:
Cymru Y Byd Cerddoriaeth Celfyddydau Ffilmiau Teledu Chwaraeon Gwyddoniaeth Ffordd o Fyw Marwolaethau
CYMRU
Roedd yna newid mawr i filoedd o weithwyr dur Cymru, wrth i'r diwydiant dur gael ei wladoli. Roedd hynny'n cynnwys y gweithfeydd anferth ym Mhort Talbot, Glyn Ebwy, Llanwern, Shotton a Brymbo.
Mewn isetholiad ym mis Mawrth, daeth Plaid Cymru o fewn dim i ennill cadarnle enwocaf y Blaid Lafur yng Ngorllewin y Rhondda. Daeth Vic Davies o fewn 2306 i Alec Jones ar ôl marwolaeth yr AS Iori Thomas yn niwedd 1966.
Ffurfiwyd cangen gyntaf Merched y Wawr ym mhentre'r Parc ger Y Bala ar ôl ffrae tros ddefnyddio'r Gymraeg rhwng cangen leol a phrif swyddfa Sefydliad y Merched.
Pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg yn sefydlu'r syniad o "ddilysrwydd cyfartal" rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghymru. Dyma ffrwyth Adroddiad David Hughes Parry ddwy flynedd ynghynt.
Ddeng mis wedi'r trychineb, rhoddodd Tribiwnlys Aberfan lawer o'r bai ar ysgwyddau'r Bwrdd Glo a'i Gadeirydd, yr Arglwydd Robens.
Agorwyd dwy ganolfan bwysig yng Nghaerdydd - canolfan newydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn Llandaf a chanolfan yr Urdd yn Heol Conway.
Argymhellodd Adroddiad Gittins y dylid dysgu Cymraeg yn holl ysgolion cynradd Cymru.
Dechreuodd dwy o ymgyrchoedd mawr Cymdeithas yr Iaith - gyda phrotest malu arwyddion gan dri myfyriwr o Aberystwyth a'r alwad gyntaf am sianel deledu Gymraeg.
Gwrthododd pobl Maelor Saesneg ger Wrecsam y cyfle i ymuno â Lloegr ac, yn ôl un pôl piniwn, roedd 61% o bobl Cymru o blaid Senedd.
Daeth y flwyddyn i ben gydag argyfwng clwy'r traed a'r genau yn effeithio ar filoedd o ffermydd a chyfyngiadau ar symud anifeiliaid.
Y BYD
Daeth Jeremy Thorpe yn arweinydd y Rhyddfrydwyr ar ôl Joe Grimond.
Bu Rhyfel y Chwe Diwrnod yn y Dwyrain Canol ym mis Mehefin, rhwng Israel, ar un llaw, a'r Aifft, Gwlad yr Iorddonen a Syria. Erbyn y diwedd, roedd Israel wedi cipio Llain Gasa, Y Lan Orllewinol, Penrhyn Sinai ac Ucheldir Golan. Mae'r effeithiau'n amlwg ar wleidyddiaeth yr ardal hyd heddiw.
Collodd y paffiwr Cassius Clay deitl Pencampwr Pwysau Trwm y Byd am wrthod mynd i'r fyddin yn yr Unol Daleithiau.
Cafwyd un o'r damweiniau olew enwocaf, wrth i dancer y Torrey Canyon gael ei dryllio yng Nghernyw, gan greu distryw mawr.
Cyhoeddodd rhanbarth o'r enw Biafra ei hannibyniaeth oddi wrth Nigeria, ond roedd hynny'n ddechrau ar ryfel rhwng y ddwy wlad a dilynwyd hynny gan newyn ofnadwy.
Pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid ymuno â'r Farchnad Gyffredin ond cafodd cais y Deyrnas Unedig ei wrthod gan Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc.
Ffrwydrodd China ei bom hydrogen cyntaf.
Pasiwyd y Ddeddf Erthylu gan ei gwneud hi'n gyfreithlon am y tro cyntaf i wragedd erthylu am resymau heblaw achub bywyd y fam. Roedd amodau caeth, yn bennaf peryg i iechyd corfforol neu feddyliol y fam.
Enillodd Winifred Ewing isetholiad Hamilton i Blaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, gan ddilyn yn ôl traed Gwynfor Evans yng Nghymru.
Arweiniodd argyfwng economiadd at ostwng gwerth y bunt. AS De Caerdydd, James Callaghan, oedd y Canghellor ar y pryd ond disodlwyd ef bron ar unwaith gan y Cymro o Abersychan, Roy Jenkins.
Enillwyd y frwydr i gofrestru genedigaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn hynny, doedd nifer o blant ddim yn "bod" yn swyddogol oherwydd fod eu rhieni wedi gwrthod eu cofrestru.
CERDDORIETH
Dechreuodd y grŵp trydanol cyntaf yn Gymraeg, Y Blew, a chyhoeddi record Maes 'B' yn deyrnged i'r maes pebyll cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Merch ysgol 17 oed o'r enw Heather Jones a enillodd gystadleuaeth ganu pop yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Ei chariad, Geraint Jarman, oedd wedi sgrifennu'r gân.
Un o'r grwpiau newydd mwyaf poblogaidd yn Gymraeg oedd Y Pelydrau, pum merch ac un bachgen o Drawsfynydd. Roedd Y Diliau hefyd yn boblogaidd, a'r rheiny'n cynnwys Meleri Mair, merch Gwynfor Evans a chwaer Dafydd Ifans, un o aelodau Y Blew.
Roedd Bois y Blacbord hefyd yn boblogaidd - côr o athrawon o ardal Rhydaman a Dinefwr. Eu cân enwocaf oedd Dros y Mynydd Du i Frynaman.
Cyhoeddodd Hogia Llandegai eu record Trên Bach yr Wyddfa ac roedd y ddeuawd o lowyr, Jac a Wil, hefyd yn y siartiau.
Deg Uchaf Y Cymro a ddechreuodd yn 1967.
Deg Uchaf 'Y Cymro' dechrau Rhagfyr:
1. Lawr ar lan y môr - Y Pelydrau
2. Caneuon Serch - Y Pelydrau
3. Dafydd Iwan ar gân.
4. Trên bach yr Wyddfa - Hogia Llandegai
5. Maes B - Y Blew
6. Clyw fy nghri - Dafydd Iwan
7. Breuddwydion ffôl - Hogia Llandegai
8. Star Songs - Jac a Wil
9. Dwli ar y Diliau - Y Diliau
10. O na bai fy Nghymru'n rhydd - Glenys a Gwenan
Rhybuddiodd meddygon fod gwrando ar gerddoriaeth pop yn rhy uchel yn gallu gwneud drwg i'ch clustiau
Cafodd y Cymro, Tom Jones, gytundeb miliwn doler y tymor i ganu yn Las Vegas
Enillodd Sandie Shaw gystadleuaeth yr Eurovision gyda Puppet on a String
Daeth y Beatles i Fangor i fyfyrio gyda'r Maharishi ac yno y clywson nhw am farwolaeth eu cyn-reolwr, Brian Epstein.
Dyma rai o ganeuon Saesneg mwya'r flwyddyn:
Beatles - Sgt Pepper, All You Need is Love, Penny Lane Strawberry Fields, Hello Goodbye
Petula Clark - This is my Song
Englebert Humperdinck - Release Me
Bee Gees - Massachussetts
Procol Harum - A Whiter Shade of Pale
Jimi Hendrix Experience - Purple Haze
Tremeloes - Silence is Golden
Scott McKenzie - San Francisco
Long John Baldry - Let the Heartaches Begin
CELFYDDYDAU
Cafwyd dathliadau i nodi 400 mlynedd cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Gwrthododd y Post Brenhinol gyhoeddi stamp arbennig i nodi'r achlysur, ond cyhoeddwyd un answyddogol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru - byddai'n cymryd bron 40 mlynedd i orffen y gwaith. A chyhoeddwyd Cymru Fydd, un o ddramâu mawr olaf Saunders Lewis.
Côr Meibion Rhosllannerchrugog yn ymddangos ar yr Ed Sulllivan Show yn yr Unol Daleithiau - yn ystod y flwyddyn, bu'r Rolling Stones a The Doors arni hefyd. Aeth arweinydd ifanc arall o'r Rhos, Owain Arwel Hughes, ati i sefydlu ei gerddorfa ei hun.
Daeth Wilbert Lloyd Roberts yn gyfarwyddwr cyntaf Cwmni Theatr Cymru ac agorodd Gwasg Y Lolfa yn Nhalybont.
Y prifathro ysgol gynradd Emrys Roberts a enillodd Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala - aeth y goron i Eluned Phillips, yr ail wraig i gyflawni'r gamp.
Ymhlith y llyfrau dylanwadol a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn roedd:
One Hundred Years of Solitude, Gabriel Garcia Marquez
Rosemary's Baby, Ira Levin
The Naked Ape, Desmond Morris
FFILMIAU
Taming of the Shrew, fersiwn o ddrama Shakespeare, gyda Richard Burton.
Thoroughly Modern Millie, ffilm gerddorol am y 20au gyda Julie Andrews.
Bonnie and Clyde, ffilm gwlt am y lladron o'r Unol Daleithiau, gyda Warren Beatty a Faye Dunaway yn ei ffilm fawr gyntaf.
The Dirty Dozen, rhai fel Lee Marvin, Charles Bronson a Donald Sutherland mewn ffilm ryfel galed.
The Jungle Book, un o gartwnau enwoca' Walt Disney, wedi ei seilio ar lyfrau gan Rudyard Kipling.
TELEDU
Christine Godwin oedd y ddysgwraig yn Croeso Christine, rhaglen ddysgu Cymraeg.
Gwaharddwyd y gorsafoedd radio preifat a sefydlwyd Radio Un.
Y Forsyte Saga ar y ÃÛÑ¿´«Ã½ oedd un o'r cyfresi drama mwyaf poblogaidd erioed.
Roedd "Bernie, the Bolt" yn ddywediad poblogaidd wrth i bobl gymryd rhan yn y rhaglen gêm, The Golden Shot.
Dechreuodd cyfres newydd o The Avengers.
CHWARAEON
Celtic yn ennill Cwpan Ewrop - y tro cyntaf i dîm o wledydd Prydain wneud hynny.
Cafwyd un o'r gêmau rygbi mwyaf cofiadwy erioed rhwng Cymru a Lloegr - "Gêm Keith Jarrett" - pan sgoriodd y cefnwr dibrofiad 19 o bwyntau - a chais unigol gwych - ac yntau'n ddim ond 18 oed. Enillodd Cymru o 34 - 21. Dyma flwyddyn cap cyntaf y mewnwr, Gareth Edwards, hefyd.
Cymru'n ennill y Gystadleuaeth Bysgota Gydwladol am y tro cyntaf ers cystadlu ers 1932. Capten: Moc Morgan
David Broome o Gas-gwent yn bencampwr neidio ceffylau y byd ar Mr Softee.
Foinavon yn ennill y Grand National o hewl ar bris o 100-1 a hynny ar ôl ras ryfedd pan fethodd y rhan fwyaf o'r ceffylau â neidio un ffens.
GWYDDONIETH
Daeth teledu lliw am y tro cyntaf ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 2.
Cyflawnwyd y trawsblaniad calon cyntaf yn Ne Affrica gan lawfeddyg o'r enw Christian Barnard.
Dyfeisiwyd lensus llygaid - contact lensus - plastig.
Gwnaed y llawdriniaeth laser cyntaf - fel cyllell olau.
Darganfuwyd pulsars, math o sêr sy'n troi.
FFORDD O FYW
Roedd set deledu lliw yn £285 i'w phrynu neu 35/- yr wythnos i'w rhentu. Pris trwydded deledu oedd £5.
Cyflwynwyd y prawf anadlu - y breathalyser - am y tro cyntaf.
Roedd nifer o lofruddiaethau yn codi ofn, yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â cheir a theithio - arwydd o allu newydd pobl i symud yn hawdd o le i le. Roedd y rheiny'n cynnwys llofruddiaethau Cannock Chase. Ym mis Awst 1967 y daethpwyd o hyd i gorff merch 10 oed o'r enw Christine Darby, y trydydd darganfyddiad o'r fath o fewn 18 mis. Dim ond ei llofruddiaeth hi a ddatryswyd.
Daeth cyfnod i ben i fechgyn, gyda diwedd y cylchgrawn Boys' Own.
Y Daily Mirror oedd papur mwyaf poblogaidd y cyfnod, yn gwerthu 5.21 miliwn o gopïau. Dim ond 1.61 miliwn oedd gwerthiant y Sun.
Ymddangosodd y peiriant twll yn y wal cyntaf - roeddech chi'n rhoi cerdyn i mewn i dderbyn £10 ac yn cael y cerdyn yn ôl yn ddiweddarach.
Cafwyd y bys post cyntaf yng ngwledydd Prydain rhwng Llanfyllin a Llanidloes, pan oedd teithwyr yn cael eu cario gyda'r llythyrau gan y fan bost.
Ymhlith y ceir newydd, roedd modelau newydd o'r Ford Corsair a'r Sunbeam Stiletto a'r Morgan Plus 8. A daeth cwmni ceir Huyndai i fod.
Cafwyd y cytundeb cyntaf i reoleiddio'r defnydd o au pairs - morwynion tros dro o Norwy
Ymhlith y tueddiadau ffasiwn, roedd ffrogiau papur, kimonos, trowsusau blodau a capes. Lansiodd y model, Twiggy, ei chasgliad ei hun o ddillad.
MARWOLAETHAU
E. Tegla Davies, gweinidog ac awdur llyfrau plant, fel Nedw a Hunangofiant Tomi.
"Meuryn", y bardd Robert John Rowlands, a roddodd ei enw i swydd y beirniad mewn Ymryson y Beirdd.
David James, Pantyfedwen, y miliwnydd a adawodd ei ffortiwn at achosion yng Nghymru.
Jack Ruby, y dyn a lofruddiodd lofrudd yr Arlywydd Kennedy.
Donald Campbell wrth geisio torri record cyflymder ar ddŵr y byd. Cafodd ddamwain ar Coniston Water yn Ardal y Llynnoedd, pan gododd ei gwch, Bluebird, i'r awyr cyn cwympo'n ôl a diflannu.
Clement Attlee, y Prif Weinidog Llafur yn llywodraeth mawr 1945-51
Yr actorion, Vivenne Leigh, Spencer Tracy a Jayne Mansfield (mewn damwain car). Roedd hi wedi'i geni ym Mrynmawr (America)
Che Guevara - y gwrthryfelwr tros ryddid gwledydd De America
John Masefield, y bardd.
John Coltrane, y sacsoffonydd.
René Magritte, yr arlunydd.
Charles Darrow, y dyn sy'n cael y glod am ddyfeisio Monopoly.
 |
 |
 |
 |
|


[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|