Heather Jones a Mari Griffith
Beth yw eich atgofion chi o 1968? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen.
John Hardy, Bangor
"Ym 1968 roeddwn ni ym mlwyddyn gyntaf Ysgol Dyffryn Ogwen yn cael cweir yn yr ysgol oherwydd bod fi'n byw ym Mangor ac yn cael cweir adre oherwydd bod fi'n mynd i ysgol ym Methesda, doedd bywyd ddim yn hawdd! Dyma'r flwyddyn pryd enillodd Ysgol Gymraeg St Paul bencampwriaeth bêl-droed ysgolion Bangor, ma' ginni lun yn tŷ o'r tîm buddugol a thrist cofnodi nad yw ambell un o'r wynebau ifanc balch efo ni bellach. Tydi o'n od sut mae cofio a galar yn mynd law yn llaw."
 |