ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cofio...?
Apollo 11 yn glanio ar y lleuad Dyma 1969
Y penawdau, y pethau, y bobl

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Dyma flwyddyn Arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru. Dechreuodd y flwyddyn gyda phrotestiadau ac ymprydio yn erbyn rhoi lle iddo yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor a chafwyd Eisteddfod yr Urdd ymfflamychol ar ôl i Dafydd Iwan ganu ei gân, Carlo, am y tro cyntaf - o'r un llwyfan ag y bu Charles ei hun yn annerch. Cafodd Cymdeithas yr Iaith ei rali fwya' erioed, yn erbyn yr Arwisgo, yng nghysgod castell Caernarfon ym mis Mawrth.

  • Cafodd dau ddyn - Alwyn Jones a George Taylor - eu lladd wrth geisio gosod bom ger y rheilffordd yn Abergele, ychydig oriau cyn i'r trên brenhinol basio ar ei ffordd i'r Arwisgo yng Nghaernarfon. Collodd bachgen deg oed ei goes mewn ffrwydrad arall yng Nghaernarfon.

  • Ar fore'r Arwisgo, daeth achos llys i ben yn erbyn rhai o arweinwyr yr FWA (Byddin Rhyddid Cymru). Cafodd rhai, fel Cayo Evans, garchar - er bod llawer yn credu mai sioe oedd yr FWA mewn gwirionedd.

  • Cafwyd lluniau lliw am y tro cyntaf gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru a HTV.

  • Yn yr hydref, bu ymladd rhwng heddlu a phrotestwyr gwrth- apartheid yn Sain Helen yn ystod gêm rygbi rhwng Abertawe a'r Springboks o Dde Affrica. Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, oedd un o arweinwyr y protestiadau yn erbyn y daith.

  • Daeth cyfnod i ben gyda chau rhai o chwareli mawr Gwynedd, yn arbennig Chwarel Dinorwig, Llanberis, a oedd, ar un adeg, yn chwarel lechi fwya'r byd.

  • Agorodd system ceir cebl Llandudno - yr hwya' o'i fath yng ngwledydd Prydain.

  • Bu protestiadau yn erbyn cynlluniau i foddi Dyffryn Senni yn Sir Frycheiniog a Chwm Nant yr Eira ym Maldwyn ac yn erbyn sefydlu maes tanio ar draeth Cefn Sidan ger Llanelli.

  • Cafwyd y rali gyntaf tros sianel deledu Gymraeg a bu Eirug Wynne (y nofelydd, Eirug Wyn wedyn) yn ymgyrchu tros gael D ar geir wrth ddysgu gyrru.

  • Ym mis Rhagfyr, daeth Abertawe yn ddinas a dechreuwyd ar wasanaeth fferi oddi yno I Gork yn Iwerddon.

    Y BYD

  • Dechrau'r trafferthion mawr yng Ngogledd Iwerddon ... gwrthdaro rhwng protestwyr hawliau sifil o'r gymuned Babyddol a Phrotestaniaid ... llosgi tai Pabyddion ym Melffast ... y fyddin yn cael eu hanfon i'r dalaith.

  • Jan Pallach, myfyriwr o Czechoslovakia yn marw ar ôl rhoi ei hun ar dân yn Prague i brotestio yn erbyn 'goresgyniad' yr Undeb Sofietaidd. Cael ei weld fel merthyr. Eraill yn dilyn ei esiampl.

  • Gostyngwyd yr oed pleidleisio yng ngwledydd Prydain o 21 i 18.

  • Ym mis Mai, enillodd yr ymgyrchwraig hawliau sifil, Bernadette Devlin, 21 oed, etholiad canol Ulster gyda mwyafrif o 4,211. Hi oedd y person ieuenga'' erioed i ddod yn AS. Ym mis Rhagfyr cafwyd hi'n euog o bedwar cyhuddiad ynglyn â therfysgoedd yn Belffast.

  • Bu cyfyngu ar fewnfudo i mewn i wledydd Prydain ar ôl i Asiaid ddechrau dianc o Kenya ble'r oedd cyfreithiau newydd yn cyfyngu ar eu gallu i gael gwaith. Saciwyd Enoch Powell o fainc flaen y Ceidwadwyr am wneud araith yn rhybuddio y byddai tywallt gwaed oherwydd mewnfudo.

  • Ym mis Mai hefyd, cyhoeddodd yr Arlywydd Nixon gynllun heddwch 8 pwynt ar gyfer Fietnam. Ond bu raid defnyddio nwy dagrau ar 2,000 o bobl oedd yn protestio ym Mhrifysgol Califfornia, Berkley.

  • Golda Meir yn dod yn Brif Weinidog Israel - y wraig gyntaf. A daeth Georges Pompidou yn Arlywydd Ffrainc.

  • Cafodd James Earl Ray garchar am 99 mlynedd am lofruddio Dr Martin Luther King. A daeth Mrs Coretta Luther King i bregethu yng Nghadeirlan St Paul yn Llundain y fenyw gyntaf' erioed i wneud hynny.

  • Ym mis Gorffennaf dywedwyd y geiriau anfarwol, "Un cam bach i ddyn, naid anferth i ddynoliaeth" wrth i Neil Armstrong a Buzz Aldrin (yn y drefn yna) gerdded ar y lleuad am y tro cyntaf'. Roedd miliynau ar filiynau'n gwylio'r cyfan ar y teledu.

  • Daeth hi'n haws i gael ysgariad, heb orfod rhoi'r bai ar un ochr neu'r llall. Roedd gan ddau AS o Gymru, Leo Abse ac Alec Jones, ran allweddol ym mhasio'r ddeddf newydd.

  • TÅ·'r Cyffredin yn pleidleisio i gael gwared â'r gosb eithaf yn gyfan gwbl gyda mwyafrif o 343 pleidlais i 185.

    CERDDORIAETH

  • Roedd hi'n flwyddyn fawr i briodasau pop:
    Paul McCartney o'r Beatles a'r ffotograffydd o America, Linda Eastman.
    John Lennon o'r Beatles a'r artist o Japan, Yoko Ono (treuliodd y ddau wythnos gyhoeddus yn y gwely hefyd!)
    Lulu, y gantores o'r Alban, a Maurice Gibb o'r Bee Gees.
    Geraint Jarman a Heather Jones.

  • Record fawr y flwyddyn yn Gymraeg oedd Carlo - ei deyrnged i'r Tywysog Charles. Gwerthodd 15,000 o gopïau a chreu eilunaddoliaeth ac atgasedd.

  • Sefydlwyd cwmni Sain gan Dafydd Iwan a chanwr arall, Huw Jones. Ei gân efo, Dŵr, oedd eu record gyntaf'. A sefydlwyd y cylchgrawn pop Cymraeg cyntaf', Asbri, gan Eilir Davies o Gaerfyrddin.

  • Yn Saesneg, bu nifer o gyngherddau anferth gyda channoedd o filoedd yn gwylio'r Rolling Stones yn Hyde Park, Llundain, a Bob Dylan yn Ynys Wyth.

  • Dechreuodd dau grwp arloesol - rocwyr Y Datguddiad (Hefin Ellis, Ieuan Owen, Gareth Roberts a Dafydd Meirion Jones) a grŵp tynnu coes Y Bara Menyn (Geraint Jarman, Mike Stevens a Heather Jones).

  • Dyma Ddeg Uchaf Y Cymro ym mis Rhagfyr:
    1. Hen bentre bach Llanber - Hogia'r Wyddfa
    2. Mi ganaf gân - Hogia Llandegai
    3. I ba beth mae'r byd yn dod - Hogia'r Deulyn
    4. Dim ond ti a fi - Tony ac Aloma
    5. Yr Anfarwol David Lloyd
    6. Cariad - Emyr ac Elwyn
    7. Diolch i'r Iôr - Parti'r Ffynnon
    8. A chofiwn ei eni ef - Dafydd Iwan ac Edward
    9. Mwg - Meic Stevens
    10. Tylluanod - Hogia'r Wyddfa



    CELFYDDYDAU

  • Enillodd Jams Niclas y Gadair a Dafydd Rowlands y Goron yn Eisteddfod y Fflint - ond roedd honno yn enwocach am brotestiadau yn erbyn Ysgrifennydd Cymru, George Thomas, ac ymddangosiad y fodel noeth, 'Efa', yn y cylchgrawn Lol.

  • Llyfr mawr y flwyddyn yn Gymraeg oedd Y Stafell Ddirgel, nofel gyntaf Marion Eames, am y Crynwyr yn ardal Dolgellau. Cyhoeddodd J.G.Williams ei atgofion, Pigau'r Sêr. Ymddangosodd y rhifyn cynta' o Mabon, cylchgrawn llenyddol byrhoedlog.

  • Cafwyd un o'r newidiadau diwylliannol mwya' wrth i bapur newydd y Sun ymddangos ar ei newydd wedd o dan berchnogaeth y teicŵn o Awstralia, Rupert Murdoch.

  • Dechreuodd Cyngor Celfyddydau Cymru roi gwobrau blynyddol i awduron. Enillwyr y gwobrau cyntaf' yn Gymraeg oedd Gwilym R. Jones am Cerddi a Pennar Davies am ei nofel, Meibion Darogan. Rhoddwyd gwobr y Booker am y tro cyntaf hefyd am nofel Saesneg.

  • Mae rhai'n dweud mai'r cerddi a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd i Gerallt Lloyd Owen yn Aberystwyth oedd y gorau erioed. Dyma asgwrn cefn Cerddi'r Cywilydd yn ddiweddarach - roedden nhw'n feirniadaeth ddeifiol ar yr Arwisgiad.

    FFILMIAU

  • Enillwyd chwech Oscar gan y ffilm gerddorol, Oliver!

  • Y ffilm gyda'r cysylltiadau Cymreig cryfa' oedd The Virgin Soldiers, wedi ei seilio ar nofel gan Leslie Thomas (a anwyd yng Nghasnewydd) a Hywel Bennett yn y prif ran.

  • Gwnaeth yr actores Barbara Windsor ei hymddangosiad enwoca' erioed wrth golli ei bronglwm yn Carry On Camping.

  • Roedd dwy olwg wahanol ar ryfel yn Battle of Britain a'r ffilm ddychanol Oh! What a Lovely War.

  • Ymhlith y ffilmiau mawr eraill, roedd Midnight Cowboy gyda Dustin Hoffman a John Voight, y ffilm gwlt am deithio ar draws America, Easy Rider, gyda Peter Fonda ac ymddangosiad mawr cyntaf'r gantores a'r actores, Barbra Streisand, yn Funny Girl.

    TELEDU

  • Bu deiseb yn erbyn un rhaglen deledu Gymraeg, Gwendid ar y Lleuad, oherwydd ei bod yn "anweddus". Hywel Gwynfryn, Derek Boote, Olwen Rees a Heulwen Haf oedd ynddi - sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc. Ataliwyd y gyfres ar ôl tair rhaglen.

  • Roedd hi'n gyfnod da i raglenni cylchgrawn i blant - yn ogystal â Blue Peter (fel erioed), roedd gan ITV raglen o'r enw Magpie gyda Susan Stranks ac yn Gymraeg, roedd Telewele. Roedd Magpie wedi dechrau yn 1968, ond yn 1969 dechreuodd gael ei darlledu ddwywaith yr wythnos.

  • Ymhlith y rhaglenni Saesneg y gallech fod wedi eu gwylio, roedd comedïau fel Not in Front of the Children gyda Wendy Craig, neu Here's Lucy, gyda Lucille Ball. Roedd Peyton Place yn sioe sebon boblogaidd o America a The Champions yn sôn am deulu o berchnogion melinau yng Ngogledd Lloegr. Roedd sioe gan Morcambe and Wise tra bod Alan Freeman yn un o gyflwynwyr Top of the Pops a David Coleman yn cyflwyno'i Sportsnight.

  • Un o gyfresi enwoca'r cyfnod oedd Civilisation, gan Kenneth Clark. Rhaglen a osododd safonau ar gyfer cyfresi uchelgeisiol gan y ÃÛÑ¿´«Ã½.

  • Un o enwau mawr y cyfnod, sydd bellach wedi ei anghofio, oedd y DJ Simon Dee, ac roedd llawer o ffys pan gyhoeddodd ei fod yn gadael y ÃÛÑ¿´«Ã½ am ITV.

    CHWARAEON

  • Dyma flwyddyn fawr tîm criced Morgannwg. Dan gapteiniaeth Tony Lewis (Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn) llwyddodd y tîm i gipio Pencampwriaeth y Siroedd am yr ail dro. Roedd y ddau frawd Cymraeg eu hiaith, Alan ac Eifion Jones, yn y tîm. Dyma pryd y dechreuodd Cynghrair Sul y siroedd.

  • Torrodd tîm rygbi Cymru dir newydd wrth i'r hyfforddwr, Clive Rowlands, gyflwyno'r syniad o hyfforddiant sgwad. Ac fe lwyddon nhw i gipio'r Goron Driphlyg.

  • David Broome, o Grughywel, yn ennill pencampwriaethau Ewrop a'r Byd am neidio ceffylau, ar Mr Softee

  • Tony Jacklin yn ennill yr Open yn y Golff ac Ann Jones yn cipio teitl Wimbledon I ferched.

  • Codwyd y car Babs o'r tywod ar draeth Pendein lle'r oedd wedi bod ers damwain a laddodd ei berchennog J.G. Parry-Thomas wrth iddo geisio torri record cyflymdra'r byd yn 1927.

    GWYDDONIETH

  • Hwyliodd llong fawr newydd y QE 2 ar draws môr Iwerydd am y tro cyntaf'.

  • Crëwyd y peiriant chwarae fideo cynta' gan baratoi'r ffordd ar gyfer chwyldro.

  • Dechreuodd gwyddonwyr ddefnyddio paneli solar i greu pwer trydan yn y gofod.

  • Un ddyfais lai llwyddiannus oedd y paent trosglwyddo trydan - roedd fel system wres canolog y gallech ei baentio ar y wal.

  • Dechreuodd pobl ifanc ddefnyddio 'auto-tutor' i ddysgu gyrru - fel math amrwd iawn o Playstation!

    FFORDD O FYW

  • Roedd yna chwyldro yn y gegin wrth i nwy Môr y Gogledd gyrraedd Cymru am y tro cyntaf'.

  • Car mawr y flwyddyn oedd y Ford Capri - gyda'i siâp trawiadol.

  • Oherwydd fod cymaint o derfysgoedd a phrotestiadau, dechreuodd yr heddlu ddefnyddio helmedau gyda darnau clir dros eu llygaid.

  • Ymhlith y prisiau diddorol, roedd sigarets newydd Senior Service yn costio 4/6d (22c) am 20 a fferm fechan gyda thÅ· pedair llofft, 36 erw a hawliau pysgota y n costio £6,750 yn Waunfawr, ger Caernarfon.

  • Yn 1969, roedd 43% o deuluoedd gwledydd Prydain yn berchen ar un car a 6% ar ddau.

  • Cyfnod newydd i hedfan. Ym mis Mawrth, ehedodd Concorde yn iawn am y tro cyntaf' - byddai'r glec wrth iddi dorri cyflymder sŵn yn dod yn sain cyfarwydd yng ngorllewin Cymru. Lawn mor arwyddocaol, ehedodd y Boeing 747 am y tro cyntaf' hefyd.

  • Dechreuwyd defnyddio ffôn botymau o ddifri', gan ddechrau disodli'r hen ddeial.

  • Ffasiwn merched: Trowsus o dan ffrogiau mini, ffrogiau Twiggy (wedi eu henwi ar ôl y fodel denau ac enwog), ffrogiau crochet, cotiau Maxi a catsuits.

    MARWOLAETHAU

  • Bu farw dau arwr o Gymru, o feysydd cwbl wahanol. Ond roedd Jimmy Wilde a David Lloyd, fel ei gilydd, wedi bod yn eilunod. Jimmy Wilde oedd pencampwr pwysau pry'r Byd o 1916-23 ac, yn ôl rhai, o ystyried ei fychander, ef oedd y bocsiwr gorau erioed. David Lloyd oedd tenor Cymreig enwoca'i ddydd ac, am gyfnod, wedi dod yn enwog y n rhyngwladol hefyd.

  • Daethpwyd o hyd i Brian Jones o fand y Rolling Stones yn farw yn ei bwll nofio yn ei gartref yn Sussex. Bu farw'r actores a'r gantores Judy Garland hefyd o orddos cyffuriau.

    Bu farw un o'r chwe phlentyn a anwyd i Rosemary Letts yn Llundain, ond goroesodd pedair merch ac un bachgen.

  • Colled ddiwylliannol fawr y flwyddyn oedd marwolaeth R.T. Jenkins, yr hanesydd.

  • Ymhlith yr enwogion eraill a gollwyd, roedd: Billy Cotton, y dyn syrcas Dwight Eisenhower, cyn- Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ho Chi Minh - arlywydd Gogledd Fietnam Kenneth Horne - digrifwr radio Rocky Marciano - paffiwr diguro arall.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý